Gwybodaeth am Daliad Annibynnol Personol (TAP)
Mae’r Adran Waith a Phensiynau yn cynnig ychydig o wybodaeth gyffredinol am Taliad Annibynnol Personol (TAP).
Canllaw i asesiadau meddygol
Mae’r Adran Waith a Phensiynau wedi cyhoeddi canllaw am sut y bydd aseswyr meddygol yn eich asesu. Mae’n hir iawn ac yn fanwl a dim ond rhannau ohono fydd yn berthnasol i chi, Mae modd darllen hwn ar wefan yr Adran a Waith a Phensiynau (155 pages).
Manylion Cyswllt Defnyddiol
Dyma rai gysylltiadau defnyddiol sydd yn medru eich helpu gyda chais am Daliad Annibynnol Personol (TAP).
Llinell Gymorth Taliad Annibynnol Personol (TAP)
Ffȏn: 0345 850 3322 (gwybodaeth)
Ffȏn: 0800 917 22 22 (ceisiadau newydd)
Ffȏn Destun: 0345 601 6677
Llun i Gwener, 8 am - 6 pm
Cyngor ar Bopeth
Yn cael ei adnabod cyn hyn fel Cyngor ar Bopeth. Maent yn cynnig cyngor am ddim, yn gyfrinachol, yn wrthrychol a’n annibynnol. Maent yn medru cynghori ar faterion dyled, budd-daliadau, tai ac eraill. Rydych yn medru derbyn cyngor wyneb i wyneb neu dros y ffȏn.
Mae modd canfod eich gwasanaeth Cyngor ar Bopeth lleol yma - www.citizensadvice.org.uk.
Ffȏn: 0344 477 2020
Dylai defnyddwyr TextRelay ffonio: 03444 111 445
Turn2us
Gwasanaeth elusennol sydd yn helpu pobl i gael gafael ar yr arian sydd ar gael iddynt drwy fudd-daliadau lles a grantiau.
Gwefan: www.turn2us.org.uk
Yr awdurdod lleol
Mae llawer iawn o awdurdodau lleol yn darparu cynghorwyr budd-daliadau. Rydych yn medru canfod manylion lleol eich awdurdod lleol ar GovUK. Cliciwch y ddolen isod.
www.gov.uk/find-your-local-council