A wyf yn medru apelio os wyf yn credu fod y penderfyniad yn anghywir
Os ydych yn anghytuno gydag unrhyw benderfyniad yr Adran Waith a Phensiynau am eich cais am Daliad Annibynnol Personol (TAP), mae modd i chi ofyn iddynt ystyried y cais unwaith eto.
Ydych. Os ydych yn anghytuno gydag unrhyw benderfyniad yr Adran Waith a Phensiynau am eich cais am Daliad Annibynnol Personol (TAP), mae modd i chi ofyn iddynt ystyried y cais unwaith eto. Mae hyn yn cael ei alw’n Ailystyriaeth Gorfodol. Mae mis gennych o’r dyddiad y mae’r penderfyniad wedi ei wneud er mwyn gofyn am hyn. Rhaid i chi fynd drwy’r broses hon cyn medru apelio i dribiwnlys annibynnol.