A oes angen i mi siarad gyda chynghorydd lles?
Mae’r system budd-daliadau lles yn gymhleth. Siaradwch gyda chynghorydd lles os ydych angen help i wneud cais am fudd-daliadau.
Siaradwch gyda chynghorydd lles os ydych angen help i wneud cais am fudd-daliadau.
Mae mudiadau hawliau lles gwahanol yn medru cynnig gwasanaethau gwahanol. Mae rhai yn helpu gyda’r pethau canlynol:
- Llenwi ffurflen
- Help gyda’r broses apelio
- Cynrychioli mewn tribiwnlys
- Esbonio pa fudd-daliadau eraill yr ydych yn medru hawlio
- Rhoi gwybodaeth gyffredinol am fudd-daliadau
Mae cynghorwyr hawliau lles gan Gyngor ar Bopeth. Efallai bod angen i chi ganfod cynghorydd hawliau lles drwy Turn2us neu’r awdurdod lleol.
Nid yw Cymorth Cyfreithiol ar gael i bobl sydd yn hawlio budd-daliadau oni bai eich bod angen apelio i Uwch Dribiwnlys. Rydych yn medru apelio i’r Uwch Dribiwnlys os ydych yn credu fod camgymeriad cyfreithiol wedi ei wneud. Er enghraifft, os ydych yn credu nad yw’r broses wedi ei dilyn yn gywir.