A fydd rhaid i mi fynd am asesiad meddygol wyneb i wyneb?
Efallai y bydd rhaid i chi fynychu asesiad meddygol wyneb i wyneb gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol nad ydych yn ei adnabod.
Efallai y bydd rhaid i chi fynychu asesiad meddygol wyneb i wyneb gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol nad ydych yn ei adnabod. Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn o fudiad preifat yn cynnal yr asesiad. Bydd Capita yn cynnal yr asesiad ar gyfer canolbarth Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon a’r Gwasanaeth Asesu Annibynnol ar gyfer gweddill y DU.
Efallai na fydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn arbenigo mewn iechyd meddwl. Mae modd i chi ofyn am weithiwr iechyd meddwl proffesiynol i’ch asesu. Fodd bynnag, nid oes hawl gennych i dderbyn hyn.
Mae’r asesiadau yma yn cael eu cynnal fel arfer mewn canolfan. Mae modd i chi ofyn i rywun ymweld â’ch cartref - rydych yn fwy tebygol o dderbyn hyn os nad ydych yn medru mynd i’r ganolfan asesu yn sgil eich cyflwr iechyd.
Rydych yn medru mynd â rhywun, megis eich gofalwr, gyda chi fel cymorth ar gyfer yr asesiad. Ni fyddant yn medru ateb cwestiynau ar eich rhan ond byddant yn medru ychwanegu at y wybodaeth yr ydych yn rhannu.
Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn cwestiynau am eich iechyd ac o bosib yn cynnal asesiad corfforol byr. Ond bydd hyn ond yn digwydd os ydych wedi nodi ar eich ffurflen fod cyflwr corfforol arnoch.
Mae’n medru bod yn ddefnyddiol i lunio rhestr o’r pwyntiau yr ydych am drafod cyn cynnal yr asesiad. Mae modd i chi fynd â’r rhestr yma gyda chi i’r asesiad.
Wedi eich asesiad meddygol, bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn asesu’r holl dystiolaeth ac yn ysgrifennu adroddiad. Byddant yn danfon hyn at yr Adran Waith a Phensiynau a fydd yn defnyddio’r holl wybodaeth er mwyn penderfynu os byddwch yn derbyn Taliad Annibynnol Personol.