A ddylem drefnu tystiolaeth atodol?
Rhaid i’r Adran Waith a Phensiynau ystyried yr holl dystiolaeth feddygol pan yn gwneud penderfyniad am eich cais am Daliad Annibynnol Personol (TAP).
Rhaid i’r Adran Waith a Phensiynau ystyried yr holl dystiolaeth feddygol pan yn gwneud penderfyniad am eich cais am Daliad Annibynnol Personol. Fodd bynnag, ni fyddant o bosib yn cysylltu gyda’ch Medd Teulu neu weithwyr proffesiynol eraill am fwy o wybodaeth am eich iechyd.
Nid oes rhaid i’ch gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i roi’r dystiolaeth i chi, hyd yn oed os ydych yn gofyn am dystiolaeth. Fodd bynnag, rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn medru eich bod yn ceisio cael gafael ar gymaint o dystiolaeth feddygol gyfredol ag sydd yn bosib. Mae hyn yn medru cynnwys eich Meddyg Teulu, seiciatrydd, cydlynydd gofal, nyrs seiciatryddol gymunedol, gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr cymorth. Mae modd i chi gyflwyno mwy nag un llythyr fel tystiolaeth feddygol.
Mae’n bwysig bod unrhyw dystiolaeth gefnogol yn cynnwys gwybodaeth am y trafferthion yr ydych yn wynebu yn sgil eich afiechyd a sut ydych yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer y budd-dal. Nid yw’n ddefnyddiol i nodi pa ddiagnosis, symptomau neu driniaeth yr ydych yn derbyn, Mae modd i chi ddefnyddio’r llythyr enghreifftiol er mwyn gofyn i weithwyr gofal iechyd proffesiynol i’ch helpu.
Efallai y bydd yn helpu hefyd i ddanfon copïau o rai dogfennau megis eich cynllun gofal, rhestr o’ch meddyginiaethau, manylion unrhyw therapïau yr ydych yn derbyn ac unrhyw ddogfennau meddygol sydd gennych a’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol.
Llungopïwch unrhyw dystiolaeth gefnogol yr ydych yn danfon at yr Adran Waith a Phensiynau a chadwch y rhai gwreiddiol yn ddiogel.
Os yn bosib, danfonwch y dystiolaeth gefnogol drwy gyfrwng gwasanaeth ‘special delivery’ y Post Brenhinol. Mae modd i chi gadarnhau wedyn pa bryd y mae eich llythyr yn cyrraedd yr Adran Waith a Phensiynau.