Sut y byddaf yn derbyn fy nhaliadau Credyd Cynhwysol?
Bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn talu’r Credyd Cynhwysol i’ch cyfrif banc unwaith y mis. Os ydych yn hawlio fel cwpwl, gallwch ddewis y cyfrif y dylid talu’r arian iddo – efallai bod cyfrif ar y cyd gennych ac mae modd talu o’r arian i’r cyfrif hwn.
Os ydych yn cael trafferth gyda’ch taliadau misol, efallai eich bod yn medru derbyn eich CC yn wythnosol neu bob pythefnos, ac mae hyn yn cael ei alw’n gymorth cyllidebu personol. Mae modd i chi gael mwy o wybodaeth am hyn yn y Canllaw Cymorth Cyllidebu Personol.