Pryd y bydd angen i mi hawlio
Mae’r Credyd Cynhwysol (CC) ar gael i bawb yn y wlad, ond ar hyn o bryd, dim ond pobl benodol mewn ardaloedd penodol sydd yn medru hawlio’r CC.
Er y bydd pawb yn medru hawlio CC maes o law, mae’n rhaid i chi hawlio CC nawr os:
- Rydych yn sengl,
- Nid ydych yn byw gyda phlentyn,
- Rydych yn chwilio am waith,
- Rydych yn gwneud cais newydd am fudd-daliadau, a
- Y Canolfan Byd Gwaith sydd yn prosesu ceisiadau CC yn prosesu eich cais.
A oes angen i mi hawlio Credyd Cynhwysol os oes plant gennyf?
Ewch i’r ddolen ganlynol am restr o’r Canolfannau Byd Gwaith sydd yn derbyn ceisiadau am CC i deuluoedd gydag uchafswm o ddau blentyn.
Beth os oes mwy na dau o blant gennyf?
Nid oes hawl gan deuluoedd sydd â mwy na dau o blant i wneud cais newydd am CC tan Dachwedd 2018 mewn unrhyw ardal, ac felly, mae teuluoedd yn y sefyllfa hon yn hawlio budd-daliadau cyfredol yn lle.
Weithiau, mae modd i chi newid i’r CC os ydych yn hawlio budd-daliadau eraill, hyd yn oed os nad ydych yn sengl neu’n chwilio am waith – gofynnwch am gyngor gan arbenigwr budd-daliadau lles cyn eich bod yn gwneud hyn oherwydd eich efallai y byddant yn derbyn llai o fudd-daliadau o dan y CC.
Os nad ydych yn byw mewn un o’r ardaloedd lle y mae’r CC ar gael, ni fydd eich budd-daliadau yn newid. Mae’r Adran Waith a Phensiynau yn cyflwyno Credyd Cynhwysol dros gyfnod o amser. Mae disgwyl y bydd hyn yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2018.
Mae’r Adran Waith a Phensiynau yn cyflwyno Credyd Cynhwysol dros gyfnod o amser. Mae disgwyl y bydd hyn yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2018.