Faint fyddaf yn derbyn?
Er mwyn gwirio faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn derbyn, bydd angen i chi ddilyn y camau canlynol:
Cam 1: Bydd angen cyfrif yr hol elfennau gwahanol o’r CC y dylech fod yn eu derbyn.
Cam 2: Ceisiwch gyfrif faint o’r CC fydd yn cael ei leihau yn sgil eich cynilion neu gyfalaf.
Cam 3: Gwiriwch nad yw’r swm yn uwch na’r cap budd-dal.
Mae yna rannau gwahanol o’r CC: mae’r rhannau yma yn cael eu galw’n ‘elfennau’ a byddant yn ffurfio un taliad misol.
Mae yna rannau gwahanol o’r CC: mae’r rhannau yma yn cael eu galw’n ‘elfennau’ a byddant yn ffurfio un taliad misol; rydym wedi esbonio’r elfennau gwahanol isod. Mae hyn yn golygu nad fyddwch yn derbyn taliadau gwahanol o’r budd-daliadau canlynol:
- Budd-daliadau Tai
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm-
- Credydau Treth
- Cymorth Incwm
Os ydych yn talu treth cyngor, bydd dal angen i chi hawlio Gostyngiad Treth Cyngor o’ch cyngor lleol.
Mae yna gyfnod asesu i bob elfen o’r CC, sef mis. Ar ddiwedd pob cyfnod asesu, bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn cyfrif eich CC ar gyfer y mis hwnnw.
Lwfans safonol
Y lwfans safonol yw’r swm sylfaenol o fudd-dal y byddwch yn derbyn – os ydych yn iau na 25 mlwydd oed, byddwch yn derbyn llai nag hyn ac mae unrhyw elfennau eraill yn cael eu hychwanegu at y swm yma.
Person sengl dros 25 - £411.50
Person sengl o dan 25 - £343.99
Cwpwl (o leiaf un partner dros 25) - £596.57
Cwpwl (dau bartner o dan 25) - £490.59
Elfen gallu cyfyngedig i weithio
Mae hyn ar gyfer rhywun sydd yn rhy sâl i weithio ar adeg yr asesiad. Bydd angen i chi wneud hyfforddiant a gweithgareddau eraill sydd yn ymwneud â’r gwaith er mwyn eich helpu i baratoi i chwilio am waith.
Mae’r llywodraeth wedi gwneud newidiadau i’r elfen gallu cyfyngedig i weithio, Os ydych yn hawlio ar ôl 3ydd Ebrill 2017, ni fyddwch yn derbyn taliad ychwanegol ar gyfer yr elfen gallu cyfyngedig i weithio a bydd taliadau yn parhau ar yr un gyfradd â’r lwfans safonol.
Yr elfen gallu cyfyngedig i weithio yw £128.89
Elfen gallu cyfyngedig i weithio a’r elfen gweithgaredd yn ymwneud â gwaith
Mae hyn ar gyfer unrhyw un sydd yn rhy sâl i weithio ac nid oes rhaid iddynt ymgymryd â gweithgareddau yn ymwneud â gwaith.
Ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn derbyn yr elfen gallu cyfyngedig i weithio a’r elfen gweithgaredd yn ymwneud â gwaith tan fod y cyfnod asesu tri mis wedi dod i ben. Os oes salwch angheuol gennych, byddwch yn derbyn yr elfen gallu cyfyngedig i weithio a’r elfen gweithgaredd yn ymwneud â gwaith ar ddechrau eich cais am CC.
Mae’r elfen gallu cyfyngedig i weithio a’r elfen gweithgaredd yn ymwneud â gwaith yn £343.63
Elfen gofalwr
Mae’r elfen gofalwr ar gyfer pobl sydd yn darparu llawer iawn o ofal drwy’r amser i rywun ag anabledd. Rydych yn derbyn yr elfen gofalwr ar gyfer y Credyd Cynhwysol p’un ai os ydych yn derbyn y lwfans gofalwr ai peidio ond nid ydych yn medru derbyn yr elfen gofalwr os ydych yn ofalwr proffesiynol ac yn derbyn cyflog,
Mae’r elfen gofalwr yn £163.73
Mae modd i chi ddarllen mwy am y cyfraddau yn ein hadran ‘Beth os wyf yn gofalu am rywun neu bod plant gennyf?'
Elfen plentyn
Rydych yn medru derbyn yr elfen plentyn os oes un neu ddau o blant gennych. Mae yna ddwy gyfradd i’r elfen hon:
- Cyfradd uwch ar gyfer y plentyn cyntaf os cafodd ei eni cyn 6ed Ebrill 2017, a
- Cyfradd is ar gyfer eich ail blentyn ac unrhyw blentyn a anwyd ar ôl 6ed Ebrill 2017
Ni fydd y gyfradd uwch ar gael mwyach i unrhyw blant sydd wedi eu geni ar ôl 6ed Ebrill 2017. Byddwch yn derbyn y gyfradd is am uchafswm o ddau blentyn yn eich teulu ond mae yna rai eithriadau i hyn a dylech siarad gyda chynghorydd lles os am dderbyn mwy o wybodaeth.
Os oes mwy na dau o blant gennych, nid ydych yn medru hawlio Credyd Cynhwysol a rhaid i chi hawlio Credyd Treth Plentyn Bydd y rheol yma yn newid yn Nhachwedd 2018 a byddwch yn medru dechrau hawlio CC.
Yr elfen plentyn ar gyfer y plentyn cyntaf yw is £282.50
Yr elfen plentyn ar gyfer plant eraill yw £237.08
Ychwanegiad plentyn anabl
Mae yna ddwy gyfradd o ran yr ychwanegiad plentyn anabl. Mae plentyn ond yn medru derbyn un gyfradd. Bydd y gyfradd yn dibynnu ar y cais Lwfans Byw i’r Anabl (LBA) neu’r Taliad Annibynnol Personol (TAP). Mae modd i chi dderbyn yr ychwanegiad yma os yw eich plentyn yn derbyn:
- LBA (gofal cyfradd uchel) neu TAP (cyfradd byw dyddiol uwch), neu
- Unrhyw LBA (gofal cyfradd isel neu ganolig) neu TAP (cyfradd byw dyddiol safonol).
Y gyfradd uwch yw £402.41
Y gyfradd is yw £128.89
Mae modd i chi ddarllen mwy am y cyfraddau yn ein hadran ‘Beth os wyf yn gofalu am rywun neu bod plant gennyf?'.
Elfennau costau gofal plant
Mae pobl sydd yn gweithio ac yn gorfod talu am ofal plant o bosib yn medru hawlio 85% o’r costau gofal plant, hyd at:
- £646.35 am un plentyn, neu
- £1,108.04 am ddau blentyn neu fwy.
Mae modd i chi ddarllen mwy am y cyfraddau yma yn ein hadran ‘Beth os wyf yn gofalu am rywun neu bod plant gennyf?'
Elfennau costau tai
Mae’r elfennau costau tai ar gyfer pobl sydd yn gyfrifol am y taliadau rhent neu forgais eu cartref. Bydd CC yn disodli’r Budd-dal Tai i bobl sydd yn talu rhent ac yn disodli’r cynllun Cymorth ar gyfer Llog Morgais. Bydd pobl sydd yn talu ffioedd ar gyfer atgyweirio mannau cyhoeddus mewn cymdeithas tai neu dŷ cyngor yn derbyn help gan y CC.
Bydd y swm yr ydych yn derbyn yn ddibynnol ar ble ydych yn byw, maint yr aelwyd a’r cyfraddau llog safonol.
Nid ydych yn medru derbyn Credyd Cynhwysol os ydych mewn tai â chymorth sydd wedi ei esemptio gan fod hyn yn llety adsefydlu sydd yn cael ei ddarparu gan awdurdod lleol, cymdeithas tai, elusen gofrestredig neu fudiad gwirfoddol ac rydych yn derbyn gofal, cymorth a goruchwyliaeth yn y llety hwn.
Rydych yn medru darllen mwy am hyn yn ein hadran Beth am gostau tai?