Beth yw ymrwymiad yr hawlydd?
Efallai eich bod yn medru chwilio neu baratoi am waith, ac yn y sefyllfa hon, bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn disgwyl i chi wneud hyn er mwyn hawlio’r Credyd Cynhwysol (CC). Os oes swydd rhan amser gennych, efallai y bydd angen i chi edrych am fwy o waith, ac os ydych mewn swydd sydd yn talu’n isel, efallai y bydd angen i chi chwilio am swydd sydd yn talu’n uwch.
Os ydych yn hawlio CC ac yn chwilio am waith, rhaid i chi gytuno gyda rhestr o amodau sy’n cael ei alw’n ymrwymiad yr hawlydd – bydd hyn yn esbonio
- Yr hyn sydd angen i chi wneud er mwyn paratoi neu chwilio am waith
- Yr hyn a fydd yn digwydd os nad ydych yn gwneud hyn, a
- Y wybodaeth y mae’r Adran Waith a Phensiynau angen i chi ddarparu..
Yn ddibynnol ar eich sefyllfa, efallai y bydd angen i chi:
- Dangos eich bod yn chwilio am waith llawn amser, a
- yn rhy sâl i weithio.
Bydd angen i chi fynd i gyfweliadau yn ffocysu ar waith ond os ydych chi mor sâl fel nad yw’r Adran Waith a Phensiynau yn credu y dylech fynd, rhaid i hyn fod yn amod o’ch cais am fudd-dal. Dyma gyfarfodydd gyda chynghorydd a byddwch yn siarad am y math o waith yr ydych yn medru ei wneud a pha broblemau y byddech yn eu hwynebu yn y gwaith a sut y dylech ddelio gyda’r problemau hyn.
Beth os y bydd angen i mi chwilio am waith?
Os bydd angen i chi chwilio am waith, bydd angen i chi fod ar gael i ddechrau gweithio yn syth - oni bai bod rheswm da gennych pam nad yw hyn yn bosib - dyma’r gofyniad argaeledd gweithio. Mae’r gofyniad i chwilio yn ymwneud â phan fydd yr Adran Waith a Phensiynau yn disgwyl i chi dreulio amser yn chwilio neu’n paratoi am waith.
Dylai eich ymrwymiad hawlydd ddatgan pa gyfarfodydd y dylech fynd iddynt a pha mor hir y mae angen i chi dreulio yn chwilio am waith. Os ydych angen newid yr ymrwymiad, siaradwch gyda chynghorydd personol yn y Ganolfan Byd Gwaith.
Beth sydd yn digwydd os nad wyf yn dilyn y rheolau yn ymrwymiad yr hawlydd?
Os nad ydych yn dilyn y rheolau, efallai y byddwch yn colli ychydig o’ch budd-daliadau – mae hyn yn gosb. Mae yna pedair lefel o gosb y mae modd i’r Adran Waith a Phensiynau weithredu, gan ddibynnu ar yr hyn sydd wedi digwydd.
Os nad ydych yn dilyn y rheolau, efallai y byddwch yn colli ychydig o’ch budd-daliadau – mae hyn yn gosb. Mae yna pedair lefel o gosb y mae modd i’r Adran Waith a Phensiynau weithredu, gan ddibynnu ar yr hyn sydd wedi digwydd.
Os ydy’ch CC yn cael ei gosbi ar y lefel isaf, byddwch yn colli 40% o’ch lwfans safonol. Bydd hyn yn parhau tan eich bod yn dechrau gwneud yr hyn y mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn gofyn i chi.
Os ydych yn hawlio fel cwpwl, byddwch yn colli 40% o lwfans y cwpwl os yw un partner yn cael ei gosbi a byddwch yn colli 80% os yw’r ddau ohonoch yn cael eich cosbi.
Taliadau caledi
Os yw’r Adran Waith a Phensiynau yn cosbi eich budd-dal, efallai y byddwch yn medru gwneud cais am help drwy’r taliad caledi. Rhaid i’r Adran Waith a Phensiynau dalu ychydig o arian i chi os:
- Nid ydych yn medru talu am bethau pwysig megis rhent, gwres, bwyd a hylendid,
- Rydych wedi ceisio gwario llai ac yn derbyn mathau eraill o gymorth, neu
- Wedi diwallu’r holl anghenion sy’n ymwneud â gwaith yn y saith diwrnod blaenorol..
Bydd rhaid i chi wneud cais am daliad caledi bob mis os ydych ei angen ond bydd rhaid i chi ad-dalu hyn drwy ddefnyddio 15% o’r CC yr ydych yn derbyn.