Beth os wyf yn gweithio neu’n astudio?
Gwaith
Rydych dal yn medru hawlio Credyd Cynhwysol (CC) hyd yn oed os ydych yn gweithio, ond bydd y swm yr ydych yn derbyn yn medru lleihau’r swm o CC yr ydych yn ei dderbyn.
Rydych dal yn medru hawlio Credyd Cynhwysol (CC) hyd yn oed os ydych yn gweithio, ond bydd y swm yr ydych yn derbyn yn medru lleihau’r swm o CC yr ydych yn ei dderbyn.
Efallai eich bod yn talu treth drwy Pay As You Earn (PAYE); yn yr achos hwn, bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) yn dweud wrth yr Adran Waith a Phensiynau faint ydych yn ennill.
Os ydych yn hunangyflogedig, dylech ddweud wrth yr Adran Waith a Phensiynau faint ydych yn ennill bob mis. Efallai bod hyn yn newid bob wythnos neu fis, ac felly, bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn asesu eich incwm drwy nodi eich bod yn ennill isafswm bob mis. Dyma’r isafswm incwm ac mae’n seiliedig ar y cyflog isafswm cenedlaethol, sef 35 awr yr wythnos. Yn seiliedig ar hyn, byddwch yn derbyn isafswm incwm wythnosol o:
- £227.05 os ydych yn 21 neu’n hŷn,
- £178.05 os ydych rhwng 18 ac 20, neu
- £132.65 os ydych o dan 18.
Astudio
Nid ydych yn medru hawlio CC fel arfer os ydych yn fyfyriwr llawn amser sydd yn astudio:
- Gradd,
- Ôl-radd,
- Diploma addysg uwch,
- Diploma cenedlaethol uwch, a
- Unrhyw gymhwyster arall sydd yn uwch na GNVQ datblygedig neu safon lefel A.
Rydych yn medru hawlio CC pan yn astudio os
- Plentyn gennych
- Rydych yn derbyn Lwfans Byw i’r Anabl neu'r Taliad Annibynnol Personol ar unrhyw gyfradd ar gyfer unrhyw elfen, a
- Rydych yn meddu ar allu cyfyngedig i weithio.
Os ydych yn astudio rhan amser ac yn cwrdd â’r amodau sydd wedi eu hamlinellu yn eich ymrwymiad hawlydd, mae modd i chi hawlio CC