A wyf yn medru apelio os wyf yn anghytuno gyda phenderfyniad
Rydych yn medru gofyn i’r Adran Waith a Phensiynau i ystyried eu penderfyniad eto - mae hyn yn cael ei alw’n ailystyriaeth gorfodol. Mae mis gennych o ddyddiad y penderfyniad i ofyn am hyn a rhaid i chi fynd drwy’r broses hon cyn medru apelio.
Mae modd i chi apelio yn erbyn y rhan fwyaf o benderfyniadau am y Credyd Cynhwysol (CC). Mae rhai pethau nad oes modd i chi apelio yn eu herbyn gan gynnwys y cap ar fudd-daliadau a gorfod ad-dalu gordaliadau. Mae unrhyw apeliadau yn mynd i’r tribiwnlys er mwyn ystyried y ffeithiau eto