A fydd y Cap Budd-dal yn effeithio arnaf
Mae yna gap ar y budd-dal a dyma’r uchafswm y mae modd i chi hawlio o’r budd-daliadau canlynol:
- Credyd Cynhwysol,
- Lwfans Ceisio Gwaith,
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth,
- Budd-dal Tai,
- Budd-dal Analluogrwydd a Lwfans Anabledd Difrifol,
- Lwfans mamolaeth
- Lwfans profedigaeth a gweddwon.
Isod, mae’r uchafsymiau y mae modd i chi hawlio bob mis drwy Gredyd Cynhwysol (CC):
Os ydych yn sengl, yn medru gweithio neu’n gwneud gweithgaredd yn ymwneud â gwaith, yn ennill llai na £520 bob mis ac yn byw y tu allan i Lundain |
£1,116.67 |
Os ydych yn sengl, yn medru gweithio neu’n gwneud gweithgaredd yn ymwneud â gwaith, yn ennill llai na £520 bob mis ac yn byw yn Llundain |
£1,284.17 |
Os ydych yn gwpwl, eich dau yn medru gweithio neu’n gwneud gweithgaredd yn ymwneud â gwaith, yn ennill llai na £520 bob mis ac yn byw y tu allan i Lundain |
£1,666.67 |
Os ydych yn gwpwl, eich dau yn medru gweithio neu’n gwneud gweithgaredd yn ymwneud â gwaith, yn ennill llai na £520 bob mis ac yn Llundain |
£1,916.67 |