Sut allaf wneud cais?
Gallwch ffonio’r Ganolfan Byd Gwaith ar 0800 055 6688 er mwyn dechrau eich cais.
Canolfan Byd Gwaith
0800 055 6688
Bydd cynghorydd yn gofyn am y wybodaeth ganlynol a rhai cwestiynau mwy manwl eraill:
- Enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhifau ffȏn
- Rhif yswiriant cenedlaethol
- Manylion morgais neu landlordiaid
- Manylion treth cyngor
- Esboniad byr o’ch afiechyd neu’ch anabledd
- Enw, cyfeiriad a rhif ffȏn eich Meddyg Teulu
- Manylion unrhyw fudd-daliadau eraill yr ydych yn eu hawlio
- Manylion unrhyw waith yr ydych wedi ei wneud
- Manylion cyfrif banc.
Bydd angen ‘nodyn ffitrwydd’ arnoch o’ch Meddyg Teulu er mwyn dechrau eich cais.
Os nad ydych am wneud cais dros y ffȏn, mae modd i chi fynd i’r Adran Waith a Phensiynau i ddanfon ffurflen atoch neu mae modd lawrlwytho copi ar-lein cyn mynd â’r ffurflen i’r swyddfa Ganolfan Byd Gwaith. Y ffurflen ESA1 yw hon ac mae modd ei lawrlwytho.
Mae gofalwr, ffrind neu berthynas yn medru ffonio’r Adran Waith a Phensiynau neu’n medru llenwi’r ffurflen ar eich rhan os ydych angen cymorth ond bydd angen i chi fod yno gyda hwy pan fyddant yn ffonio er mwyn rhoi caniatâd iddynt siarad ar eich rhan.
Mae gofalwr, ffrind neu berthynas yn medru ffonio’r Adran Waith a Phensiynau neu’n medru llenwi’r ffurflen ar eich rhan os ydych angen cymorth
Mewn rhai ardaloedd, rhaid i chi hawlio budd-dal newydd o’r enw Credyd Cynhwysol yn hytrach na LCCh yn ymwneud ag incwm