Beth yw’r LCCh
Os ydych yn cael trafferthion gyda’ch iechyd meddwl ac nid ydych yn ddigon da i weithio, yna mae modd i chi wneud cais am Lwfans Cymorth a Chyflogaeth (LCCh) er mwyn helpu lliniaru eich trafferthion ariannol. Mae yna ddau fath ac maent yn seiliedig naill ai ar eich cyfraniadau Yswirian Cenedlaethol neu’ch incwm.
Os ydych yn cael trafferthion gyda’ch iechyd meddwl ac nid ydych yn ddigon da i weithio, yna mae modd i chi wneud cais am Lwfans Cymorth a Chyflogaeth (LCCh) er mwyn helpu lliniaru eich trafferthion ariannol.
LCCh yn seiliedig ar gyfraniadau
Rydych yn medru derbyn LCCh yn seiliedig ar gyfraniadau os ydych wedi talu digon o Yswiriant Cenedlaethol tra’n gweithio. Ni fydd eich cynilion, incwm neu incwm eraill sydd yn byw ar eich aelwyd yn effeithio ar y swm y byddwch yn ei dderbyn, ond os ydych yn derbyn pensiwn, efallai y bydd hyn yn effeithio ar y swm o LCCh yn seiliedig ar gyfraniadau y byddwch yn ei dderbyn.
Mae’r LCCh yn seiliedig ar gyfraniadau yn cael ei dalu am gyfnod o 12 mis, oni bai eich bod yn cael eich symud i’r Grŵp Cymorth. Wedi hyn, efallai y byddwch yn derbyn LCCh sy’n ymwneud ag incwm - ond peidiwch â phoeni oherwydd os ydych yn y Grŵp Cymorth, byddwch yn parhau i dderbyn LCCh yn seiliedig ar gyfraniadau ar ôl 12 mis. Mae mwy o wybodaeth am y grwpiau LCCh isod.
LCCh yn seiliedig ar incwm
Os nad ydych yn derbyn LCCh yn seiliedig ar gyfraniadau, efallai y byddwch yn medru derbyn LCCh yn ymwneud ag incwm os ydy'ch cynilion ac incwm eich aelwyd yn isel.
Math newydd o LCCh
Mewn rhai ardaloedd nid oes modd i chi hawlio LCCh yn ymwneud ag incwm mwyach a rhaid i chi hawlio Credyd Cynhwysol. Yn yr ardaloedd yma, mae dal modd i chi hawlio LCCh yn seiliedig ar gyfraniadau ond efallai bod hyn nawr yn cael ei alw’n fath newydd o LCCh.
Pa mor aml y byddaf yn derbyn y LCCh?
Bob pythefnos, bydd y LCCh yn cael ei dalu yn syth i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu’ch cyfrif yn y swyddfa bost.
Faint y byddaf yn derbyn?
Mae’r 13 wythnos gyntaf o’ch cais yn cael ei alw’n gyfnod asesu ac yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn derbyn y gyfradd sylfaenol o LCCh.
Ers Ebrill 2020, y gyfradd sylfaenol ar gyfer y LCCh yw:
- £74.70 yr wythnos am berson sengl dros 25 mlwydd oed,
- £59.20 yr wythnos am berson sengl o dan 25, neu
- £117.40 yr wythnos am gyplau.
Yn ystod yr 13 wythnos gyntaf, bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn cynnal asesiad meddygol er mwyn cadarnhau a ydych yn ddigon da i weithio ai peidio. Os ydy’r Adran Waith a Phensiynau yn penderfynu nad ydych yn ddigon da i weithio, byddwch yn symud i brif ran y LCCh. Byddwch yn cael eich gosod yn y grŵp gweithgaredd sy’n ymwneud gyda gwaith neu’r grŵp cymorth.
Unwaith yr ydych ym mhrif ran y LCCh, bydd y symiau yr ydych yn derbyn fel a ganlyn:
- £74.70 yr wythnos am berson sengl dros 25 mlwydd oed,
- £117.40 yr wythnos am gyplau.
Dewch i ganfod mwy am grwpiau LCCh
Weithiau, byddwch yn derbyn arian ychwanegol fel rhan o’ch budd-daliadau ac mae hyn yn cael ei alw’n ‘premiwm’:
Premiwm Aabledd Uwch
Os ydych yn y grŵp cymorth neu os ydych yn derbyn unrhyw un o’r canlynol, byddwch yn derbyn y premiwm anabledd mwy sydd yn gyfystyr â £17.20 yr wythnos:
- Lwfans Byw i’r Anabl (elfen gofal gyfradd uchel),
- Taliad Annibynnol Personol (elfen byw dyddiol mwy) neu
- Taliad Annibynnol y Lluoedd Arfog
Premiwm Aabledd Difrifol
Os ydych yn sengl ac yn derbyn un o’r canlynol, byddwch yn derbyn y premiwm anabledd difrifol sydd yn £67.30 ychwanegol yr wythnos:
- Lwfans Byw i’r Anabl (elfen gofal gyfradd ganolig neu uwch), neu
- Taliad Annibynnol Personol (elfen byw dyddiol safonol neu fwy).
Rhaid bod y canlynol yn berthnasol hefyd:
- Nid oes dim oedolion eraill yn byw gyda chi, a
- Nid oes neb sydd yn derbyn Lwfans Gofalwyr yn gofalu amdanoch.Fodd bynnag, mae yna reolau gwahanol os ydych yn byw gyda’ch partner.