Beth yw’r grwpiau o LCCh
Mae’r Adran Waith a Phensiynau yn medru gwneud tri phenderfyniad am eich cais am LCCh:
- Rhoi’r LCCh i chi a’ch gosod yn y grŵp gweithgaredd yn ymwneud â gwaith,
- Rhoi’r LCCh i chi a’ch gosod yn y grŵp cymorth, neu
- Penderfynu eich bod yn ffit i weithio ac ni ddylech dderbyn LCCh.
Mae’r Adran Waith a Phensiynau yn medru gwneud tri phenderfyniad am eich cais am LCCh
Grŵp gweithgaredd yn ymwneud gyda gwaith
- Rhaid i chi fynd o leiaf i un cyfweliad yn ffocysu ar waith.
- Rhaid i chi gymryd rhan yn y Rhaglen Waith.
- Byddwch yn derbyn llai o arian os ydych yn y grŵp cymorth.
- Byddwch ond yn derbyn LCCh sy’n seiliedig ar incwm, am gyfnod o flwyddyn unig.
Grŵp Cymorth
- Nid oes rhaid i chi fynd i gyfweliadau neu gymryd rhan yn y Rhaglen Waith.
- Os ydych yn derbyn LCCh yn seiliedig ar gyfraniadau, mae modd i chi dderbyn hyn ar yr amod eich bod yn cwrdd â’r meini prawf am y grŵp cymorth.
- Byddwch yn derbyn swm ychwanegol o arian ar ben y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth o bedwaredd wythnos ar ddeg eich cais. Os yw’n cymryd fwy o amser i’r Adran Waith a Phensiynau i benderfynu pa grŵp y dylech fod yn rhan ohono, byddant yn ôl-ddyddio’r arian.