Disgrifyddion yr holiadur iechyd
Fel rhan o’r holiadur iechyd, bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn rhoi ‘pwyntiau’ i chi am eich atebion – dyma’r ffurflen ESA50 neu’r UC50. Yn yr adran hon, mae modd gweld faint o bwyntiau y mae’r Adran Waith a Phensiynau yn rhoi ichi. Mae modd i chi ddarllen mwy am yr holiadur yn yr adran 'Sut wyf yn llenwi'r holiadur iechyd? ’.
Cwestiwn 11 – Dysgu sut i wneud tasgau |
· Yn methu dysgu sut i wneud tasg syml megis gosod cloc larwm (15 pwynt). · Yn methu dysgu dim byd heblaw am dasg syml megis gosod cloc larwm (9 pwynt). · Yn methu dysgu dim byd heblaw am dasg gweddol syml megis yr hyn sydd angen gwneud er mwyn sicrhau bod y peiriant golchi yn glanhau dillad (6 pwynt).
|
Cwestiwn 12 – Ymwybyddiaeth o beryglon |
Mae llai o ymwybyddiaeth o beryglon yn arwain at risg sylweddol o anaf i chi’ch hun neu eraill, neu ddifrod i eiddo sydd yn golygu bod angen eich goruchwylio er mwyn cadw’n ddiogel Am y rhan fwyaf o’r amser (15 pwynt ). · Yn gyson (9 pwynt). · Yn achlysurol (6 pwynt).
|
Cwestiwn 13 - Rhoi Cychwyn ar Bethau (cynllunio, trefnu, datrys problemau, blaenoriaethu neu gyfnewid tasgau) |
Yn methu, yn sgil nam meddwl, rhoi cychwyn neu gwblhau o leiaf dwy weithred bersonol,
· Pob tro (15 pwynt). · Rhan fwyaf o’r amser (9 pwynt). · Yn achlysurol (6 pwynt).
|
Cwestiwn 14 – Delio gyda newid |
· Yn methu ag ymdopi ag unrhyw newid fel nad oes modd rheoli bywyd o ddydd i ddydd (15 pwynt). · Yn methu ymdopi gyda newidiadau bychain sydd wedi eu cynllunio fel bod bywyd bob dydd yn dipyn mwy anodd (9 pwynt ). · Yn methu ymdopi gyda newidiadau bychain sydd heb eu cynllunio fel bod bywyd bob dydd dipyn mwy anodd (6 pwynt).
|
Cwestiwn 15 – Mynd allan am dro |
· Yn methu mynd i unrhyw le y tu allan i dŷ’r hawlydd, sydd yn gyfarwydd i’r hawlydd (15 pwynt ). · Yn methu mynd i le cyfarwydd heb unrhyw gwmni (9 pwynt). · Yn methu mynd i le anghyfarwydd heb unrhyw gwmni (6 pwynt).
|
Cwestiwn 16 – Ymdopi gyda sefyllfaoedd cymdeithasol |
· Mae ymgysylltu gydag eraill yn amhosib drwy’r amser yn sgil y drafferth yr wyf yn profi yn uniaethu ag eraill / straen sylweddol (15 pwynt). · Mae ymgysylltu gyda pherson anghyfarwydd bron yn amhosib drwy’r amser yn sgil trafferthion yn uniaethu ag eraill / trallod sylweddol i’r unigolyn (9 pwynt). · Nid yw ymgysylltu gyda pherson anghyfarwydd bron yn bosib y rhan fwyaf o’r amser yn sgil trafferthion yn uniaethu ag eraill / trallod sylweddol i’r unigolyn (9 pwynt ).
|
Cwestiwn 17- Ymddwyn yn briodol gyda phobl eraill |
Yn cael pyliau – nad oes modd eu rheoli – o ymddygiad treisgar neu’n ddi-hid a fyddai’n amhriodol mewn unrhyw weithle.
· Yn ddyddiol (15 pwynt). · Yn gyson (15 pwynt). · Yn achlysurol (9 pwynt).
|