Beth yw’r grŵp gweithgaredd yn ymwneud â gwaith (GGYG)?
Os yw’r Adran Waith a Phensiynau yn penderfynu nad ydych yn medru gweithio ond yn medru ymgymryd â ‘gweithgaredd yn ymwneud â gwaith’, byddant yn eich gosod yn y grŵp gweithgaredd yn ymwneud â gwaith (GGYG)? o’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCG) neu mi fyddwch yn derbyn yr elfen ‘gallu cyfyngedig i weithio’ o’r Credyd Cynhwysol (CC).
Yn y GGYG, efallai eich bod eisoes wedi ymuno â’r Rhaglen Waith a bydd hyn yn cynnwys ‘cyfweliadau yn ffocysu ar waith’. Yn y cyfweliadau, rydych yn medru siarad am:
- Y mat o waith yr hoffech ei wneud,
- Beth sydd yn eich atal rhag dychwelyd i’r gwaith,
- Sut alwch chi ddelio gyda phethau sy’n eich atal,
- Cyrsiau hyfforddi y mae’n bosib i chi eu mynychu, neu
- Help gydag ysgrifennu eich CV.
Ar ôl eich cyfweliad yn ffocysu ar waith, byddant yn rhoi cynllun gweithredu i chi yn esbonio’r hyn yr ydych wedi cytuni a bydd y cynllun hwn yn ystyried eich cyflwr iechyd meddwl
Nid yw bod yn y GGYG yr un peth â bod ar Lwfans Ceiswyr Gwaith, oherwydd os nad ydych yn dod o hyd i swydd tra eich bod yn y GGYG, ni fydd eich budd-dal yn dod i ben.
Nid yw bod yn y GGYG yr un peth â bod ar Lwfans Ceiswyr Gwaith, oherwydd os nad ydych yn dod o hyd i swydd tra eich bod yn y GGYG, ni fydd eich budd-dal yn dod i ben.
Efallai y bydd eich arian yn cael ei leihau neu’i atal os nad ydych yn cymryd rhan – heb reswm da – mewn cyfweliadau yn ffocysu ar waith, ac felly, dylech ddweud wrth eich cynghorydd cyn gynted ag sydd yn bosib os nad ydych yn medru mynychu apwyntiad.