Beth yw’r grŵp cymorth neu’r elfen gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith?
Efallai na fydd yr Adran Waith a Phensiynau yn credu eich bod yn medru gweithio neu gymryd rhan mewn ‘gweithgaredd yn ymwneud â gwaith’. Yn yr achos hwn, byddwch yn mynd i’r ‘grŵp cymorth’ ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCC) neu’n derbyn yr elfen ‘gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith’ o’r Credyd Cynhwysol (CC).
Efallai na fydd yr Adran Waith a Phensiynau yn credu eich bod yn medru gweithio neu gymryd rhan mewn ‘gweithgaredd yn ymwneud â gwaith’. Yn yr achos hwn, byddwch yn mynd i’r ‘grŵp cymorth’ ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) neu’n derbyn yr elfen gallu cyfyngedig ar gyfer yr elfen sydd yn ymwneud gyda gwaith o'r Credyd Cynhwysol (CC).
Os ydych yn y grŵp cymorth neu’n derbyn yr elfen hon, nid oes rhaid i chi gymryd rhan mewn unrhyw gyfweliadau gyda’r Adran Waith a Phensiynau tan fod eich cais wedi ei adnewyddu. Ond os hoffech dderbyn help ganddynt yn chwilio am swydd, mae dal modd i chi gymryd rhan yn y Cynllun Rhaglen Waith.