Beth yw’r Asesiad Gallu i Weithio?
Os ydych yn hawlio’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) – neu mewn rhai ardaloedd y Credyd Cynhwysol (CC) – o ganlyniad i’ch iechyd meddwl, rhaid i’r Adran Waith a Phensiynau gadarnhau nad ydych yn ddigon da i weithio ac maent yn galw hyn yn ‘allu cyfyngedig i weithio’. Os ydych yn meddu ar all cyfyngedig i weithio, rydych yn medru derbyn y LCG neu CC gydag elfen gallu cyfyngedig i weithio.
Os ydych yn meddu ar all cyfyngedig i weithio, rydych yn medru derbyn y LCCh neu CC gydag elfen gallu cyfyngedig i weithio
Yn yr adran hon, rydym yn cyfeirio at y LCCh ond mae’r un rheolau yn berthnasol i’r CC gydag elfen gallu cyfyngedig i weithio.
Mae’r prawf a ddefnyddir gan yr Adran Waith a Phensiynau i wirio a oes gennych allu cyfyngedig i weithio yn cael ei alw’n Asesiad Gallu i Weithio (AGiW).
Weithiau, nid oes rhaid i’r Adran Waith a Phensiynau wirio bod gallu cyfyngedig genych i weithio os ydych, er enghraifft, yn yr ysbyty.
Byddant fel arfer yn danfon ffurflen atoch am eich iechyd - dyma’r ffurflen ESA50 neu’r UC50, neu’r holiadur Gallu i Weithio. Yn yr adran hon, rydym yn cyfeirio at hyn fel yr ‘holiadur iechyd’. Mae modd ichi ganfod mwy am y ffurflen hon yn yr adran Sut wyf yn cwblhau'r holiadur iechyd.
Pan eich bod wedi cwblhau’r ffurflen, bydd rhaid i’r rhan fwyaf o bobl fynd am asesiad meddygol.