Asesiad ar gyfer gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith
Fel rhan o’r Asesiad Gallu i weithio, bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn asesu a ydynt yn meddu ar allu cyfyngedig gennych i weithio. Byddant hefyd yn ystyried a ydych yn meddu ar ‘allu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith’.
Os ydych yn cytuno eich bod yn cwrdd ag un o’r meini prawf isod, yna byddwch yn mynd i grŵp cymorth y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) neu mi fyddwch yn derbyn yr elfen gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith’ o’r Credyd Cynhwysol.
Mae modd i chi ddarllen mwy am hyn yn yr adran Beth yw’r grŵp cymorth neu’r elfen gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith?
Dysgu Tasgau |
Yn methu dysgu sut i gwblhau tasg syml, megis gosod cloc larwm, yn sgil nam gwybyddol neu anhwylder meddwl.
|
Ymwybyddiaeth o beryglon |
Llai o ymwybyddiaeth o beryglon bob dydd, yn sgil nam meddwl neu anhwylder meddwl, yn arwain at risg mwy sylweddol o: · Niwed i’ch hun neu eraill, neu · Niwed i eiddo Fel bod angen rhywun i’ch goruchwylio am y rhan fwyaf o’r amser er mwyn cadw’n ddiogel.
|
Rhoi Cychwyn ar Bethau (cynllunio, trefnu, datrys problemau, blaenoriaethu neu gyfnewid dasgau) |
Yn methu, yn sgil nam meddwl, rhoi cychwyn neu gwblhau o leiaf dwy weithred bersonol,
|
Delio gyda newid |
Yn methu ymdopi ag unrhyw newid, yn sgil nam meddwl neu anhwylder meddwl, fel nad oes modd rheoli bywyd o ddydd i ddydd. |
Delio ag ymgysylltu cymdeithasol, yn sgil nam meddwl neu anhwylder meddwl |
Mae’r unigolyn yn osgoi unrhyw ymgysylltu cymdeithasol bob tro yn sgil trafferthion yn uniaethu ag eraill neu’r trallod sylweddol sydd yn cael ei brofi gan yr unigolyn. |
Priodoldeb eich ymddygiad ag eraill yn sgil nam meddwl neu anhwylder meddwl |
Yn cael pyliau – nad oes modd eu rheoli – o ymddygiad treisgar neu ddi-hid a fyddai’n amhriodol mewn unrhyw weithle. . |
Gosod bwyd a diod yn y geg |
· Yn methu gosod bwyd a diod yng ngheg yr hawlydd heb dderbyn help corfforol gan rywun arall, · Yn methu gosod bwyd a diod yng ngheg yr hawlydd heb stopio dro ar ôl tro, mynd allan o wynt neu’n profi poen difrifol · Yn methu gosod bwyd a diod yng ngheg yr hawlydd heb dderbyn anogaeth gyson gan rywun arall sydd yn rhan o gwmni’r hawlydd, neu · Yn methu – yn sgil anhwylder hwyl neu ymddygiad – cludo bwyd a diod i geg yr hawlydd heb dderbyn:
o Cymorth corfforol gan rywun arall, neu o Anogaeth gyson gan rywun arall sydd yng nghwmni’r hawlydd. |
Cnoi neu lyncu bwyd neu ddiod |
· Yn methu cnoi neu lyncu bwyd neu ddiod · Yn methu cnoi neu lyncu bwyd neu ddiod heb stopio dro ar ôl tro, mynd allan o wynt neu’n profi anghysur difrifol · Yn methu cnoi neu lyncu bwyd neu ddiod heb dderbyn anogaeth gyson gan rywun arall sydd yn rhan o gwmni’r hawlydd, neu · Yn methu – yn sgil anhwylder hwyl neu ymddygiad:
o Cnoi neu lyncu bwyd neu ddiod; neu o Cnoi neu lyncu bwyd neu ddiod heb anogaeth gyson gan rywun arall sydd yng nghwmni’r hawlydd.. |