Tâl Salwch Statudol
Beth yw’r Tâl Salwch Statudol?
Nid yw’r Tâl Salwch Statudol yn fudd-dal lles mewn gwirionedd; bydd cyflogwyr yn talu eu cyflogeion os ydynt yn rhy sâl i weithio.
A allaf hawlio Tâl Salwch Statudol?
Nid oes rhaid i chi wneud cais i dderbyn Tâl Salwch Statudol am fod cyflogwyr yn talu hyn am uchafswm o 28 wythnos os ydych yn cwrdd â’r meini prawf - dyma’r gyfraith. Byddwch yn derbyn £96.35 yr wythnos fel Tâl Salwch Statudol ond bydd rhai cyflogwyr yn talu mwy. Dyma’r tâl salwch cytundebol– dylech wirio eich cytundeb er mwyn cadarnhau faint y bydd eich cyflogwr yn talu os ydych yn sâl. Bydd eich cyflogwr yn danfon ffurflen SSP1 atoch pan fydd eich Tâl Salwch Statudol ar fin dod i ben a dylech hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os ydych dal yn rhy sâl i weithio pan fydd y Tâl Salwch Statudol yn dod i ben.
Nid oes rhaid i chi wneud cais i dderbyn Tâl Salwch Statudol am fod cyflogwyr yn talu hyn am uchafswm o 28 wythnos os ydych yn cwrdd â’r meini prawf - dyma’r gyfraith.
Nid ydych yn medru derbyn Tâl Salwch Statudol os ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol:
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Budd-dal Analluogrwydd - Lwfans Anabledd Difrifol
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau
- Tâl Mamolaeth Statudol
- Lwfans Mamolaeth
- Tâl Tadolaeth Statudol
- Tâl Rhiant a Rennir Statudol
- Tâl Mabwysiadu Statudol