Sut wyf yn gwirio’r hyn yr wyf yn gymwys i’w dderbyn?
Chi sydd yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn derbyn y budd-daliadau yr ydych yn gymwys i’w derbyn- nid oes rhaid i’r Adran Waith a Phensiynau a’ch cyngor lleol ddweud wrthych am yr hyn dylech fod yn ei hawlio. Mae modd defnyddio offeryn ar-lein i wirio'r hyn y mae modd i chi hawlio ond nodwch os gwelwch yn dda mai canllaw yw hwn yn unig; ni fydd yn dweud wrthych os bydd eich cais yn llwyddiannus. Mae’r elusen Turn2us yn cynnig cyfrifiannell ar-lein y mae’n bosib i chi ddefnyddio.
Efallai y bydd cynghorydd hawliau lles yn medru cynnig help os ydych yn cael problemau gyda’ch budd-daliadau neu’n ansicr pa rai y dylech fod yn ceisio eu hawlio - mae hyn yn rhywun sydd yn arbenigo mewn budd-daliadau. Maent yn medru gwirio eich bod yn derbyn yr hyn yr ydych yn gymwys i’w dderbyn a helpu gyda cheisiadau ac apeliadau.
Efallai y bydd cynghorydd hawliau lles yn medru cynnig help os ydych yn cael problemau gyda’ch budd-daliadau neu’n ansicr pa rai y dylech fod yn ceisio eu hawlio.