Lwfans Anabledd Difrifol
Roedd Lwfans Anabledd Difrifol yn fudd-dal yr oeddech yn medru derbyn os yn rhy sâl i weithio ond nid oes hawl gennych i wneud cais newydd am Lwfans Anabledd Difrifol mwyach. Mae’r Adran Waith a Phensiynau wedi disodli’r Lwfans Anabledd Difrifol gyda’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ond efallai y bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn parhau gyda’ch cais os ydych wedi bod yn derbyn y Lwfans Cymorth Cyflogaeth cyn Ebrill 2001.
Mae’r Adran Waith a Phensiynau wedi disodli’r Lwfans Anabledd Difrifol gyda’r Lwfans Cymorth a Chyflogaeth. Fodd bynnag, efallai y bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn parhau gyda’ch cais os ydych wedi bod yn derbyn y Lwfans Cymorth Cyflogaeth cyn Ebrill 2001.
Nid oes modd i ni fedru dweud pa bryd y bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn eich ail-asesu ar gyfer y Lwfans Cymorth a Chyflogaeth (neu’r Credyd Cynhwysol os ydych yn byw mewn ardal gwasanaeth lawn) os ydych dal yn derbyn y Lwfans Anabledd Difrifol ond efallai y bydd llinell gymorth y Ganolfan Byd Gwaith yn medru dweud wrthych. Bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn cysylltu gyda chi pan fyddant yn adolygu eich cais am Fudd-dal Analluogrwydd ac nid oes rhaid i chi wneud dim byd cyn eu bod yn cysylltu gyda chi.
Llinell Gymorth y Ganolfan Byd Gwaith
Ffȏn: 0345 608 8545