Cymorth Incwm
Beth yw Cymorth Incwm?
Mae Cymorth Incwm yn rhoi incwm byw sylfaenol i chi ac mae’n seiliedig ar brawf modd. Golyga hyn bod eich cynilion, incwm neu unrhyw incwm arall ar eich aelwyd yn effeithio ar y swm y byddwch yn derbyn ond nid yw’r budd-dal yn ddibynnol ar eich cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol.
Sut allaf hawlio Cymorth Incwm?
Mae modd i chi hawlio Cymorth Incwm os:
- Rydych 18 mlwydd oed a’n hŷn ac yn iau na’r oedran pensiwn,
- Rydych yn y DU,
- Nai ydych yn derbyn incwm neu os yw’r incwm yn is na’r ‘swm cymwys’ (dyma’r swm o arian y mae’r gyfraith yn dweud sydd angen arnoch er mwyn ymdopi a byw),
- Nid ydych mewn addysg llawn amser (oni bai eich bod yn gymwys fel myfyriwr anabl)
- Rydych yn gweithio llai na 16 awr yr wythnos a bod eich partner yn gweithio dim mwy na 24 awr yr wythnos,
- Mae eich cynilion neu gyfalaf yn £16,000 neu’n llai,
- Nid ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) neu lwfans Cymorth a Chyflogaeth (ESA) a bod eich partner ymatal rhag hawlio lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cymorth Cyflogaeth.
- Nid oes rhaid i chi weithio am eich bod yn gofalu am rywun, neu
- Rydych yn rhiant sengl sydd yn gofalu am blentyn o dan bum mlwydd oed,
- Rydych yn gymwys i dderbyn Tâl Salwch Statudol, neu
- Rydych yn feichiog ac yn methu chwilio am waith am eich bod yn feichiog.
Mae modd i chi hawlio Cymorth Incwm am resymau eraill ond mae’r rheolau’n gymhleth. Siaradwch gyda’r cynghorydd hawliau lles os ydych yn credu y dylech fod yn hawlio Cymorth Incwm yn hytrach na’r Lwfans Cymorth Cyflogaeth neu’r Lwfans Ceisio Gwaith.
Sut i hawlio
Mae modd i chi hawlio Cymorth Incwm drwy gysylltu gyda’r Ganolfan Byd Gwaith
Ffôn 0800 0556688
Efallai y bydd rhaid i chi hawlio Credyd Cynhwysol yn hytrach na Chymorth Incwm, ac mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau a ble ydych yn byw.
A allaf weithio a hawlio Cymorth Incwm?
Mae modd i chi hawlio Cymorth Incwm os ydych yn gweithio llai na 16 awr y dydd a bod eich partner yn gweithio llai na 24 awr yr wythnos.
Mae modd i chi hawlio Cymorth Incwm os ydych yn gweithio llai na 16 awr y dydd a bod eich partner yn gweithio llai na 24 awr yr wythnos.
A fydd fy Nghymorth Incwm yn dod i ben?
Byddwch yn medru hawlio Cymorth Incwm cyn hired â’ch bod yn cwrdd â’r amodau.
Efallai y bydd angen i chi hawlio budd-dal cymwys arall megis Lwfans Gofalwyr er mwyn derbyn Cymorth Incwm. Bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn atal eich Cymorth Incwm os ydynt yn atal y budd-dal cymwys – efallai y byddwch yn medru herio’r penderfyniad i atal eich budd-dal cymwys. Rhaid i chi hawlio Cymorth Incwm eto o fewn tri mis os ydy’r Adran Waith a Phensiynau yn rhoi’r budd-dal cymwys i chi eto. Bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn ôl-ddyddio eich arian Cymorth Incwm.