Cronfa Gymdeithasol
Mae modd i chi gael help gyda thaliadau untro neu daliadau achlysurol drwy gyfrwng y gronfa gymdeithasol os ydych ar incwm isel ac yn cwrdd â’r amodau; efallai bydd y gronfa gymdeithasol yn medru cynnig help o ran:
- Grant mamolaeth,
- Arian i helpu talu am drefniadau angladd,
- Taliadau tywydd oer, neu
- Benthyciad cyllidebu.
Ni fydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian sydd yn cael ei roi i chi fel grant mamolaeth, taliad tywydd oer neu daliadau angladd. Fodd bynnag, mae modd hawlio’r taliadau angladd yn eu hôl o ystâd y person pan y mae ef/hi yn marw.
Ni fydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian sydd yn cael ei roi i chi fel grant mamolaeth, taliad tywydd oer neu daliadau angladd. Fodd bynnag, mae modd hawlio’r taliadau angladd yn eu hôl o ystâd y person pan y mae ef/hi yn marw.
Mae’r gronfa gymdeithasol yn medru rhoi benthyciad cyllidebu i chi – mae’r rhain ar gyfer taliadau mawr untro sydd yn anodd paratoi ar eu cyfer, megis boiler sydd yn torri. Rhaid ad-dalu benthyciad cyllidebu, ond maent yn ddi-log. Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, ni fydd hawl gennych i wneud cais am fenthyciad cyllidebu ond efallai y byddwch yn medru gwneud cais am Ragdaliad Cyllidebu.
Gwneud Cais am Ragdaliad Cyllidebu.
Ers Ebrill 2013, nid yw benthyciadau argyfwng a grantiau gofal yn y gymuned ar gael – mae’n rhagdaliad tymor byr wedi disodli’r benthyciadau argyfwng. Efallai y byddwch yn derbyn hyn os oes rhaid i chi aros am eich budd-daliadau ac mae hyn yn golygu y bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn benthyg arian i chi a bydd rhaid ad-dalu’r rhagdaliad tymor byr, yn union fel benthyciad argyfwng.
Nid oes dim byd wedi disodli’r grantiau gofal cymunedol – mae awdurdodau lleol wedi cael yr opsiwn i sefydlu cynlluniau amgen o ran y ‘grantiau gofal cymunedol’ os ydynt yn dymuno ond mae rhai awdurdodau lleol wedi penderfynu ymatal rhag sefydlu unrhyw fath o gynllun. Bydd angen i chi gysylltu gyda’ch awdurdod lleol am fwy o wybodaeth am yr hyn sydd yn digwydd yn eich ardal ac efallai y byddwch yn medru derbyn help gan elusen grantiau megis ‘Turn2us'. Am fwy o wybodaeth a manylion cyswllt 'Turn2us', ewch i’r adran Camau Nesaf.