Credyd Cynhwysol
Mae’r Credyd Cynhwysol (CC) yn fudd-dal newydd yr ydych yn medru hawlio os ydy’ch incwm yn isel. Efallai y byddwch yn medru derbyn CC os ydych yn gweithio ac ar incwm isel. Bydd yr arian yr ydych yn derbyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau ond yn medru cynnwys arian i’w ddefnyddio er mwyn talu am bethau ac arian i dalu eich rhent. Mae’n cael ei gyflwyno ar draws y wlad ar hyn o bryd ac yn mynd i ddisodli rhai o’r budd-daliadau yr ydych eisoes yn eu derbyn.
Bydd yr arian yr ydych yn derbyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau ond yn medru cynnwys arian i’w ddefnyddio er mwyn talu am bethau ac arian i dalu eich rhent.
Yn ddibynnol ar ble ydych yn byw, ac os nad ydych yn ddigon da i weithio, efallai y bydd rhaid i chi hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn hytrach na Chredyd Cynhwysol. Ewch i ganfod mwy os ydych yn medru hawlio Credyd Cynhwysol yn eich ardal chi.