Budd-dal Analluogrwydd
Roedd Budd-dal Analluogrwydd yn fudd-dal yr oeddech yn arfer ei hawlio os oeddech yn rhy sâl i weithio ond nid ydych yn medru hawlio’r budd-dal hwn o’r newydd mwyach. Mae wedi ei ddisodli gan y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, ond mae rhai pobl dal yn derbyn Budd-dal Analluogrwydd. Yn 2011, roedd yr Adran Waith a Phensiynau wedi dechrau ailasesu pawb sydd yn derbyn y Budd-dal Analluogrwydd gan ddefnyddio’r rheolau Lwfans Cymorth a Chyflogaeth.
Yn 2011, roedd yr Adran Waith a Phensiynau wedi dechrau ailasesu pawb sydd yn derbyn y Budd-dal Analluogrwydd gan ddefnyddio’r rheolau Lwfans Cymorth a Chyflogaeth.
Nid oes modd i ni fedru dweud pa bryd yn union y bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn eich ail-asesu ar gyfer y Lwfans Cymorth a Chyflogaeth (neu’r Credyd Cynhwysol os ydych yn byw mewn ardal gwasanaeth lawn) os ydych dal yn derbyn Budd-dal Analluogrwydd ond efallai y bydd y llinell gymorth y Ganolfan Byd Gwaith yn medru dweud wrthych. Bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn cysylltu gyda chi pan fyddant yn adolygu eich cais am Fudd-dal Analluogrwydd ac nid oes rhaid i chi wneud dim byd cyn eu bod yn cysylltu gyda chi.
Llinell Gymorth y Ganolfan Byd Gwaith
Ffȏn: 0345 608 8545