Beth yw Budd-dal Tai?
Beth yw Budd-dal Tai?
A allaf hawlio Budd-dal Tai?
Mae modd ichi hawlio Budd-dal Tai os:
- Nid ydych wedi eich eithrio rhag derbyn budd-dal tai,
- Rydych yn gorfod talu rhent ar eich cartref arferol,
- Nid ydych yn meddu ar gynilion neu gyfalaf sydd yn fwy na £16,000, a
- Rydych yn hawlio:
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth,
- Lwfans Ceisio Gwaith sy’n ymwneud ag incwm,
- Cymorth Incwm,
- Credyd sicr o gredyd pensiwn, neu
- Ar Incwm isel.
Mae rhai pobl wedi eu gwahardd rhag hawlio budd-dal tai. Mae’r rhestr hon yn hir iawn ac nid ydym wedi cynnwys pob dim yma ond mae’r gwaharddiadau mwyaf cyffredin yn cynnwys:
- Os ydych wedi byw yn eich cartref cyn dechrau ei rentu.
- Os ydych yn byw gyda’ch landlord sydd yn berthynas agos. Mae modd i chi hawlio Budd-dal Tai weithiau os ydych yn byw mewn eiddo sy’n berchen i berthynas agos, ar yr amod nad ydynt hwy yn byw yno hefyd; mae’r rheolau yma yn gymhleth. Dylech siarad gyda chynghorydd hawliau lles os ydych yn dymuno hawlio Budd-dal Tai er mwyn byw yn eiddo eich perthynas.
Mae’r Cyfraddau Lwfans Tai Lleol ar gyfer maint yr eiddo ar gael o’r cyngor lleol a dylai hyn eich helpu er mwyn cyfrif faint o fudd-dal tai y byddwch yn derbyn pe baech yn symud i gyfeiriad newydd. Mwy o wybodaeth am Gyfraddau Lwfans Tai Lleol .
A allaf hawlio Budd-dal Tai?
Mae modd ichi hawlio Budd-dal Tai os:
- Nid ydych wedi eich eithrio rhag derbyn budd-dal tai,
- Rydych yn gorfod talu rhent ar eich cartref arferol,
- Nid ydych yn meddu ar gynilion neu gyfalaf sydd yn fwy na £16,000, a
- Rydych yn hawlio:
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth,
- Lwfans Ceisio Gwaith sy’n ymwneud ag incwm,
- Cymorth Incwm,
- Credyd sicr o gredyd pensiwn, neu
- Ar Incwm isel.
Mae rhai pobl wedi eu gwahardd rhag hawlio budd-dal tai. Mae’r rhestr hon yn hir iawn ac nid ydym wedi cynnwys pob dim yma ond mae’r gwaharddiadau mwyaf cyffredin yn cynnwys:
- Os ydych wedi byw yn eich cartref cyn dechrau ei rentu.
- Os ydych yn byw gyda’ch landlord sydd yn berthynas agos.
Mae modd i chi hawlio Budd-dal Tai weithiau os ydych yn byw mewn eiddo sy’n berchen i berthynas agos, ar yr amod nad ydynt hwy yn byw yno hefyd; mae’r rheolau yma yn gymhleth. Dylech siarad gyda chynghorydd hawliau lles os ydych yn dymuno hawlio Budd-dal Tai er mwyn byw yn eiddo eich perthynas.
Lwfans Tai Lleol
Mae’r rheolau Lwfans Tai Lleol yn cael eu defnyddio er mwyn cyfrif faint o fudd-dal tai y byddwch yn derbyn os ydych yn rhentu gan landlord lleol. Mae’r cyfraddau Lwfans Tai Lleol yn ddibynnol ar eich oedran, pa ardal yr ydych yn byw ynddi, y nifer o bobl ar yr aelwyd a maint eich eiddo. Mae hyn yn medru amrywio o ystafell sengl mewn tŷ a rennir i dŷ gyda phedair ystafell wely.
Mae’r Cyfraddau Lwfans Tai Lleol ar gyfer maint yr eiddo ar gael o’r cyngor lleol a dylai hyn eich helpu er mwyn cyfrif faint o fudd-dal tai y byddwch yn derbyn pe baech yn symud i gyfeiriad newydd. Mwy o wybodaeth am Gyfraddau Lwfans Tai Lleol .
Bydd y swm o fudd-dal tai yr ydych yn derbyn yn cynyddu os ydych yn:
- Medru dangos tystiolaeth eich bod yn derbyn gofal dros nos,
- Yn derbyn y gofal hwnnw, a
- Angen ystafell ychwanegol yn eich eiddo.
Rydych yn medru hawlio Budd-dal Tai am eiddo sydd ag ystafell ychwanegol. Er enghraifft, os oes gennych ofalwr na sy’n byw yn yr eiddo ond sydd angen aros dros nos llawer iawn o amser.
Efallai nad yw pobl sydd o dan 21 mlwydd oed yn medru hawlio budd-dal tai ac os yw hyn yn berthnasol i chi, dylech siarad gyda’ch cyngor lleol.
Mae pobl sengl o dan 35 mlwydd oed, sydd heb blant, fel arfer yn derbyn Lwfans Tai Lleol o un ystafell mewn tŷ a rennir, ond nid yw hyn yn digwydd os ydynt yn derbyn premiwm anabledd difrifol.
Bydd y rheolau Lwfans Tai Lleol yn wahanol os ydych wedi eich esemptio. Mae’r esemptiadau fel a ganlyn:
- Roedd eich tenantiaeth breifat wedi cychwyn cyn Ionawr 1989,
- Rydych wedi bod yn hawlio budd-dal tai yn ddi-dor ers 1af Ionawr 1996 ac nid ydych wedi symud eich cyfeiriad,
- Hostel adsefydlu yw eich cartref,
- Rydych angen ystafell ychwanegol ar gyfer gofalwr na sydd yn byw gyda chi ond sydd yn rhoi gofal dros nos i chi,
- Rydych o dan 22 ac wedi bod yng ngofal awdurdod lleol,
- Rydych yn 25 neu’n hŷn ac wedi byw mewn hostel i bobl ddigartref sydd yn cynnig adsefydlu o fewn y gymuned, a hynny am o leiaf tri mis. Rhaid i chi fod wedi derbyn cymorth adsefydlu er mwyn eich helpu i fyw yn gymuned.
Rhentu eiddo gan y cyngor neu gymdeithas tai
O Ebrill 2018, bydd uchafswm ar eich Budd-dal Tai yn unol gyda’r rheolau Awdurdod Lleol – ewch i’r adran Cyfraddau Lwfans Tai Lleol am fwy o wybodaeth.
Bydd Budd-dal Tai yn talu am eich holl rent os:
- Mae eich unig incwm yn dod o fudd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd, a
- Rydych yn byw mewn eiddo sy’n berchen i’r awdurdod lleol neu gymdeithas tai.
Efallai y byddwch ond yn derbyn rhan o’r rhent os ydych yn derbyn incwm arall, ac os felly, chi sydd yn gyfrifol am dalu gweddill y rhent.
Efallai y byddwch yn derbyn llai o rent os:
- Yw rhan eich rhent yn cael ei ddefnyddio i dalu am filiau a gwasanaethau na sydd yn cael eu talu gan y Budd-dal Tai. Mae hyn yn medru cynnwys talu am drydan, dŵr, prydau bwyd a gwasanaethau glanhau.
- Mae yna berson yn byw gyda chi na sy’n ddibynnol arnoch. Mae hyn yn cynnwys rhywun a ddylai fod yn cyfrannu at y rhent. Mae’n medru cynnwys:
- Unigolyn sy’n blentyn i chi ond sydd yn oedolyn,
- Ffrind, neu
- Perthynas
Mae modd hawlio gostyngiadau os ydy’r person sydd yn byw gyda chi yn:
- Yn iau nag 18,
- Yn iau na 25 ac yn derbyn cymorth incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sydd yn seiliedig ar incwm neu gyflogaeth yn seiliedig ar incwm cyfnod asesu a lwfans cymorth,
- Yn iau na 25 ac yn gymwys i dderbyn Credyd Cynhwysol os nad yn derbyn enillion,
- Yn derbyn credyd pensiwn,
- Yn derbyn lwfans Dysgu yn y Gwaith i bobl ifanc,
- Wedi bod mewn ysbyty GIG am fwy na 52 wythnos,
- Yn meddu ar gartref arferol rhywle arall,
- Yn garcharor,
- Yn aelod o’r lluoedd arfog sydd yn gweithio dramor fel rhan o’ch gwaith, neu
- Yn fyfyriwr llawn amser.
Nid oes gostyngiadau yn cael eu rhoi os ydych chi neu’ch partner yn:
- Dioddef nam sylweddol ar eich golwg neu’n ddall a bod hyn wedi ei gadarnhau gan offthalmolegydd ymgynghorol
- Derbyn elfen gofal y Lwfans Byw Anabl ar y gyfradd ganolig neu uwch,
- Derbyn elfen byw’n ddyddiol y Taliad Personol Annibynnol,
- Derbyn Taliad Annibynnol y Lluoedd Arfog,
- Derbyn lwfans mynychu neu lwfans mynychu parhaol, neu
- Derbyn credyd pensiwn.
Treth Ystafell
Byddwch yn colli ychydig o’ch budd-daliadau tai os ydych yn meddu ar fwy o ystafelloedd gwely nag sydd angen arnoch - mae hyn yn cael ei alw’n dreth ystafell neu’n tan-lenwi eich eiddo.
Byddwch yn colli ychydig o’ch budd-daliadau tai os ydych yn meddu ar fwy o ystafelloedd gwely nag sydd angen arnoch - mae hyn yn cael ei alw’n dreth ystafell neu’n tan-lenwi eich eiddo.
Bydd eich budd-dal tai yn cael ei leihau gan:
- 14% os oes un ystafell wely sbâr gennych, neu
- 25% os oes dwy ystafell wely sbâr neu fwy gennych.
Mae yna rai esemptiadau sydd yn eich caniatáu i gadw un ystafell wely sbâr.
Beth os wyf angen yr ystafell wely sbâr fel bod gofalwr yn medru aros yno?
Efallai eich bod yn medru cadw un ystafell sbâr os ydych chi, eich partner neu’ch plentyn angen gofal dros nos gan ofalwr.
Rydych yn medru cadw’r ystafell wely os:
- Rydych chi neu’ch partner yn hawlio:
- Lwfans mynychu,
- Yr elfen ofal o’r Lwfans Byw i’r Anabl ar y gyfradd ganolig neu uwch, neu
- Elfen fyw ddyddiol o’r Taliad Annibynnol Personol, neu
- Taliad Annibynnol y Lluoedd Arfog
Rydych dal yn medru hawlio’r ystafell wely sbâr hyd yn oed os nad ydych yn hawlio dim un o’r budd-daliadau uchod ond bydd rhaid i chi brofi bod angen y gofalwr dros nos a bydd angen gwneud hyn drwy gyfrwng unrhyw dystysgrifau, tystiolaeth neu ddogfennau sydd gennych. Rhaid bod y gofalwr yn darparu gofal dros nos ac yn aros yn yr ystafell yn gyson er mwyn hawlio hyn.
Beth os wyf angen yr ystafell ychwanegol oherwydd nid wyf yn medru rhannu ystafell gyda fy mhartner yn sgil fy/ei anabledd?
Os nad ydych yn medru rhannu ystafell gyda’ch partner yn sgil eich anabledd chi neu hwythau, yna efallai y byddwch yn medru cadw’r ystafell wely sbâr heb y dreth.
Rydych yn medru cadw’r ystafell os:
- Rydych chi neu’ch partner yn hawlio:
- Lwfans mynychu ar y gyfradd uwch,
- Yr elfen ofal o’r Lwfans Byw i’r Anabl ar y gyfradd ganolig neu uwch, neu
- Elfen fyw ddyddiol o’r Taliad Annibynnol Personol, neu
- Taliad Annibynnol y Lluoedd Arfo
Yn yr achos hwn, rhaid i chi neu’ch partner hawlio un o’r budd-daliadau uchod a phrofi nad ydych yn medru rhannu ystafell gyda’ch gilydd.
Beth allaf wneud os wyf wedi fy effeithio gan y dreth ystafell wely?
Mae yna rai opsiynau i’w hystyried os ydych wedi eich effeithio gan y dreth ystafell wely. Mae modd i chi:
- Symud tŷ,
- Trefnu fod lletywyr yn dod i fyw gyda chi,
- Yn gwneud cais am daliadau tai dewisol gan eich cyngor lleol
- Cynyddu’r oriau yr ydych yn gweithio,
- Derbyn gwiriad budd-daliadau er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn pob dim yr ydych yn gymwys i’w dderbyn,
- Talu’r gwahaniaeth o’ch budd-daliadau neu incwm arall os ydych yn medru fforddio i wneud hyn.
Cynllun Perchnogaeth a Rennir
Mae perchnogaeth a rennir yn golygu eich bod yn prynu cyfran o’ch cartref drwy gynllun perchnogaeth a rennir ond dal yn talu rhent - mae modd i chi hawlio budd-dal tai yn ystod y cyfnod hwn. Efallai eich bod yn medru cael help i dalu’r llog ar eich morgais drwy’r cynllun Cymorth gyda Llog Morgais
Taliad Tai yn ôl Disgresiwn
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer hyn, rhaid i chi fod yn derbyn budd-dal tai neu gymorth treth cyngor – nid yw Taliad Tai yn ôl Disgresiwn yn fudd-dal ac mae hyn yn golygu nad oes hawl gennych i’w hawlio. Mae modd i’r awdurdod lleol i roi hyn i chi os ydynt yn credu bod angen arian ychwanegol arnoch er mwyn helpu gyda chostau tai. Mae Taliad Tai yn ôl Disgresiwn wedi eu cyfyngu, ac felly, nid oes unrhyw sicrwydd y byddwch yn eu derbyn ond mae modd i chi gysylltu gyda’ch awdurdod lleol i yn wneud cais am Daliad Tai yn ôl Disgresiwn.
Pryd fydd y Budd-dal Tai yn dod i ben?
Byddwch yn medru parhau i hawlio Budd-dal Tai ar yr amod eich bod angen y budd-dal a’ch bod yn cwrdd â’r amodau.