Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
21/08/2023

Cymryd credyd allan

  1. Cyllidebu
  2. Rheoli arian
  3. Cyfrifon banc
  4. Awgrymiadau Gorau
  5. Codau Ymarfer a Chanllawiau
  6. Cymryd credyd allan

Efallai yr hoffech ystyried cymryd credyd gan undeb credyd neu gael benthyciad gan fanc i dalu am rywbeth fel gwyliau neu i gael eitem newydd yn lle eitem yn y cartref. Mae angen i chi feddwl yn ofalus cyn cymryd credyd gan efallai na fyddwch yn gallu talu biliau arferol eich cartref yn ogystal â thaliadau’r benthyciad. Cyn i chi gymryd credyd, mae’n syniad da gwneud cyllideb i weld a allwch fforddio’r taliadau misol.

Os byddwch chi’n gwneud cais am gredyd, bydd y credydwr yn gwirio’ch adroddiad credyd ac yn defnyddio’r wybodaeth ar eich adroddiad credyd i weld a fyddan nhw’n benthyca i chi.

Gallwch ofyn i’r asiantaeth cyfeirio credyd roi hysbysiad cywiriad ar eich adroddiad hyd at 200 gair. Fel arfer, gwneir penderfyniadau credyd yn awtomatig gan gyfrifiadur, ond os oes hysbysiad cywiriad ar eich adroddiad, bydd eich cais yn cael ei gyfeirio at berson i wneud y penderfyniad.

Mae angen i chi feddwl yn ofalus cyn cymryd credyd gan efallai na fyddwch chi'n gallu talu biliau arferol eich cartref yn ogystal â'r taliadau benthyciad. Cyn i chi gymryd credyd, mae'n syniad da gwneud cyllideb i weld a allwch chi fforddio'r taliadau misol.

Rheoli Gwariant

Os yw eich iechyd meddwl yn achosi i chi gael cyfnodau lle rydych chi’n ei chael hi’n anodd rheoli eich gwariant, gallwch chi roi gwybodaeth ar eich adroddiad credyd eich hun i ddweud wrth fenthycwyr am eich iechyd meddwl a sut mae hyn yn effeithio ar eich gwariant.

Enghraifft

Hysbysiad Cywiriad – i helpu i reoli gwariant:

Mae gen i anhwylder deubegwn ac rwy’n cael triniaeth ar ei gyfer ac wedi bod ers blynyddoedd lawer. Y rhan fwyaf o’r amser rwy’n synhwyrol iawn gydag arian, yn cyllidebu’n dda ac yn talu unrhyw ddyledion sydd gennyf ar amser, ond pan fyddaf yn cael cyfnodau manig rwyf wedi bod yn hysbys am wario’n ddi-hid ac ymgeisio am fwy o gredyd nag y gallaf ei reoli.


Anhawster Cael Credyd

os yw eich iechyd meddwl wedi arwain at roi gwybodaeth ar eich ffeil gredyd sy’n ei gwneud hi’n anodd cael credyd, gallwch ychwanegu gwybodaeth at eich ffeil gredyd i esbonio beth ddigwyddodd.

Enghraifft

Hysbysiad Cywiriad – i egluro problem ar eich ffeil credyd

Rwy’n ymwybodol bod fy ffeil cyfeirio credyd yn dangos fy mod wedi methu â thalu fy ad-daliadau benthyciad i’r banc ym mis Hydref 2011 ac yna fy mod wedi derbyn dyfarniad llys sirol ym mis Mehefin 2012. Roedd hyn oherwydd i mi fynd yn sâl iawn tua’r adeg y digwyddodd y methdaliad a bu’n rhaid i mi dreulio amser hir yn yr ysbyty. Ar ôl i mi wella, dychwelais i’r gwaith ac rwyf wedi bod yn ad-dalu’r ddyled hon cyn gynted â phosibl. Rwyf bellach wedi bod yn ad-dalu’r ddyled ers dros 4 blynedd ac mae bron wedi’i thalu’n llawn. Cymerwch yr amgylchiadau eithriadol hyn o amgylch y methdaliad a dyfarniad y llys i ystyriaeth wrth wneud penderfyniad benthyca.

Asiantaethau Cyfeirio Credyd

Dewch o hyd i fanylion cyswllt ac oriau agor ar gyfer asiantaethau cyfeirio credyd yn ein hadran camau nesaf .

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Cyllidebu
  2. Rheoli arian
  3. Cyfrifon banc
  4. Awgrymiadau Gorau
  5. Codau Ymarfer a Chanllawiau
  6. Cymryd credyd allan
x

Ydy'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

Wedi'i diweddaru ddiwethaf: 21/08/2023

'