Cyfrifon banc a dyled
Mae'n bwysig bod eich holl incwm yn cael ei dalu i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu nad yw'n gysylltiedig ag unrhyw un o'ch dyledion.

Gall eich banc neu gymdeithas adeiladu gymryd arian o’ch cyfrif os oes gennych ddyled gyda’r un grŵp bancio. Felly, er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd, mae’n bwysig bod eich holl incwm yn cael ei dalu i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu nad yw’n gysylltiedig ag unrhyw un o’ch dyledion. Mae gwefan y Bwrdd Safonau Benthyca yn rhestru’r prif grwpiau bancio.
Os oes angen i chi agor cyfrif newydd, dylech ofyn am gyfrif sylfaenol. Cyfrif heb gyfleuster credyd yw hwn (er enghraifft gorddrafft). Gellir talu eich cyflog neu fudd-daliadau i mewn iddo. Byddwch yn dal i allu tynnu arian o beiriant arian parod a sefydlu archebion sefydlog a debydau uniongyrchol.
Os ydych chi’n gwneud cais am gyfrif banc sylfaenol, ni ddylai eich hanes credyd effeithio ar eich cais. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfrifon banc sylfaenol ar wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol .
