Yn siarad ar fy rhan
Os ydych chi’n profi iechyd meddwl gwael, efallai na fyddwch chi’n teimlo’n barod i siarad â’ch banc, cyflenwyr cyfleustodau neu asiantaeth casglu dyledion dros y ffôn. Fel arfer, dim ond os byddwch chi’n rhoi caniatâd llafar iddyn nhw yn gyntaf ac yna’n trosglwyddo’r ffôn i’r person rydych chi am iddo siarad ar eich rhan y bydd sefydliadau fel y rhain yn siarad â rhywun arall am eich materion ariannol dros y ffôn. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi siarad â’r cwmni a rhoi rhai manylion amdanoch chi’ch hun yn gyntaf fel y gallant wirio eu bod nhw’n siarad â deiliad y cyfrif.

I’ch helpu i baratoi, ysgrifennwch yr hyn rydych chi am ei ddweud a darllenwch hyn iddyn nhw. Os bydd y sefydliad yn cymeradwyo eich cais, bydd hyn yn golygu y bydd y person sy’n siarad ar eich rhan yn gallu casglu gwybodaeth fel balansau eich cyfrif a’ch manylion cyswllt. Fel arfer, ni fydd y gofalwr, ffrind na pherthynas sy’n siarad ar eich rhan yn gallu gwneud unrhyw newidiadau i’ch cyfrif na chysylltu â’r sefydliad yn barhaus.
Fel arfer, ni fydd y gofalwr, ffrind na pherthynas sy'n siarad ar eich rhan yn gallu gwneud unrhyw newidiadau i'ch cyfrif na chysylltu â'r sefydliad yn barhaus.
Fodd bynnag, os ydych chi’n meddwl bod angen i rywun siarad yn fwy rheolaidd â sefydliad ar eich rhan neu weithredu eich cyfrif, gallwch chi roi caniatâd ysgrifenedig. Gelwir hyn yn llythyr awdurdod.
Mae gan rai sefydliadau bolisïau gwahanol ar gyfer delio ag awdurdod trydydd parti ac efallai na fydd rhai yn derbyn llythyr awdurdod cyffredinol. Os felly, dylech ofyn i’r sefydliad am ‘ffurflen mandad trydydd parti’. Bydd mandad trydydd parti yn caniatáu i rywun weithredu eich cyfrif yn yr un modd â llythyr awdurdod.
Gan fod gwahanol bolisïau ar gyfer delio â thrydydd partïon, efallai mai’r peth gorau yw cysylltu â’r sefydliad yn gyntaf i ddarganfod y ffordd orau o fwrw ymlaen.
