Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
08/09/2025

Pa filiau sydd bwysicaf i’w talu yn gyntaf?

  1. Deall eich opsiynau
  2. Hawlio budd-daliadau
  3. Yn siarad ar fy rhan
  4. Credydau treth
  5. Atwrneiaeth Barhaol
  6. Dirprwy wedi'i benodi gan y Llys Gwarchod
  7. Pa filiau i'w talu gyntaf

Mae rhai biliau y mae’n rhaid eu talu sy’n bwysicach nag eraill. Os na wneir y taliadau hyn, byddwch mewn perygl o golli rhywbeth pwysig. Er enghraifft, os na thelir rhent mae risg o gael eich troi allan, neu os na thelir y trydan mae risg o gael eich datgysylltu. Gelwir y taliadau hyn yn ‘daliadau blaenoriaeth’.

Dyma rai enghreifftiau pellach:

Taliad blaenoriaethCanlyniad peidio â thalu
Morgais neu fenthyciad wedi’i ddiogeluAdfeddiannu’r eiddo
RhentWedi’i droi allan o’r eiddo
Treth y cyngorGorchymyn Atebolrwydd sy’n arwain at Atafaelu Enillion, Didyniad o fudd-daliadau, Asiant Gorfodi yn cymryd nwyddau atafaelu neu garchar
Bil nwy neu drydanDatgysylltu eich nwy neu drydan
Ffioedd llys a dirwyonCarchariad
Cynhaliaeth plantCarchar neu waharddiad rhag gyrru os gwrthodwch dalu
Pryniant llogiAdfeddiannu eich nwyddau prynu ar rent
Trwydded deleduFfioedd llys a dirwyon

Ni ystyrir taliadau i gardiau credyd, benthyciadau heb warant, catalogau, gorddrafftiau a chardiau siop yn daliadau blaenoriaeth.

Ni ystyrir taliadau i gardiau credyd, benthyciadau heb warant, catalogau, gorddrafftiau a chardiau siop yn daliadau blaenoriaeth. Gall methu â thalu’r rhain effeithio ar eich sgôr credyd, a fyddai’n ei gwneud hi’n anoddach cael credyd yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid oes risg uniongyrchol o golli rhywbeth os na thelir y dyledion hyn.

Os yw rhywun arall yn delio â’ch arian ar eich rhan, mae’n bwysig eu bod yn sicrhau bod eich biliau blaenoriaeth yn cael eu talu cyn talu unrhyw ddyledion eraill. Os nad oes gennych ddigon o arian i dalu eich biliau pwysig neu’r taliadau gofynnol i’ch dyledion, dylech geisio cyngor gan gynghorydd ariannol.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Deall eich opsiynau
  2. Hawlio budd-daliadau
  3. Yn siarad ar fy rhan
  4. Credydau treth
  5. Atwrneiaeth Barhaol
  6. Dirprwy wedi'i benodi gan y Llys Gwarchod
  7. Pa filiau i'w talu gyntaf
x

Ydy'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

Wedi'i diweddaru ddiwethaf: 08/09/2025

'