Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
10/03/2025

Beth yw Atwrneiaeth Arhosol?

  1. Deall eich opsiynau
  2. Hawlio budd-daliadau
  3. Yn siarad ar fy rhan
  4. Credydau treth
  5. Atwrneiaeth Barhaol
  6. Dirprwy wedi'i benodi gan y Llys Gwarchod
  7. Pa filiau i'w talu gyntaf

Os ydych chi’n gallu gwneud penderfyniadau drosoch chi’ch hun ar hyn o bryd, ond yn poeni y gallech chi fod yn brin o’r gallu yn y dyfodol, gallwch chi roi ‘Atwrneiaeth Arhosol’ neu LPA i rywun.

Mae hyn yn ddefnyddiol os, er enghraifft, oes gennych anhwylder deubegwn ac rydych chi’n poeni pan fyddwch chi’n mynd yn sâl, y gallech chi fynd ar sbri gwario a gwario mwy nag y gallwch chi fforddio.

Mae cael LPA ar waith yn golygu, os byddwch chi’n colli’r gallu i wneud penderfyniadau, y byddai gan eich gofalwr, ffrind neu berthynas yr awdurdod i weithredu ar eich rhan. Byddech chi’n cael eich galw’n ‘rhoddwr’ a’r person rydych chi’n rhoi’r awdurdod iddo yw ‘atwrnai’.

Mae LPAs wedi disodli'r 'Atwrneiaeth Barhaus' (EPA). Os oedd gennych EPA eisoes, bydd hon yn dal yn ddilys ond rhaid ei chofrestru.

Mae Atwrneiaethau Arhosol wedi disodli’r ‘Atwrneiaeth Barhaus’ (EPA). Os oedd gennych EPA eisoes, bydd hon yn dal yn ddilys ond rhaid i’r ‘atwrnai’ ei chofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) pan fyddant yn meddwl eich bod yn dechrau mynd yn sâl neu eisoes yn brin o allu i reoli eich cyllid eich hun.

I gofrestru EPA mae angen i chi lenwi ffurflen EP2PG ar-lein neu gallwch ffonio Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 0300 456 0300 a gofyn iddyn nhw bostio copi atoch.

Cofrestru LPA

Os oes gennych y gallu i wneud penderfyniadau, yna gallwch ganslo’r hen EPA a chofrestru LPA newydd.

Os ydych chi eisiau gwneud rhywun yn ‘atwrnai’ i chi, rhaid iddyn nhw fod yn 18 oed o leiaf, ac ni allant fod yn fethdalwr.

Os ydych chi am roi LPA, bydd angen i chi lenwi rhai ffurflenni , sydd i’w cael ar y dudalen hon neu sydd i’w cael ar wefan y llywodraeth.

Gallwch chi nodi

Gallwch wneud LPA i roi’r hawl i rywun ddelio â’ch materion ariannol naill ai pan fyddwch chi’n colli gallu, neu i wneud penderfyniadau tra bod gennych chi allu ar hyn o bryd a phan fyddwch chi’n ei golli.

Gallwch chi nodi pa benderfyniadau rydych chi eisiau iddyn nhw eu gwneud a rhoi canllawiau iddyn nhw eu dilyn wrth geisio darganfod beth fyddai er eich lles chi.

Ar ôl ei chwblhau, mae’n rhaid cofrestru’r LPA. Gwneir hyn drwy Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus . Mae ffi fach i’w thalu er mwyn cofrestru LPA. Gallwch chi neu’ch atwrnai gofrestru’r LPA.

Os yw’r person sy’n cofrestru’r LPA yn hawlio budd-daliadau penodol, ar incwm isel neu os byddai talu’r ffi yn achosi caledi, yna efallai y byddant wedi’u heithrio neu dim ond yn gorfod talu rhan o’r ffi. Dysgwch fwy am ffioedd yn y daflen a ddarperir .

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Deall eich opsiynau
  2. Hawlio budd-daliadau
  3. Yn siarad ar fy rhan
  4. Credydau treth
  5. Atwrneiaeth Barhaol
  6. Dirprwy wedi'i benodi gan y Llys Gwarchod
  7. Pa filiau i'w talu gyntaf
x

Ydy'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

Wedi'i diweddaru ddiwethaf: 10/03/2025

'