Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
24/06/2020

Beth os na allaf fforddio’r ffioedd?

  1. Beth yw gofal preswyl?
  2. Beth yw cyfalaf a sut mae'n cael ei asesu?
  3. Sut mae fy incwm yn cael ei asesu?
  4. Beth yw’r mwyaf y bydd yn rhaid i mi ei dalu?
  5. Beth yw ffioedd ail-lenwi?
  6. Cytundebau Taliad Gohiriedig
  7. Deddf Iechyd Meddwl
  8. Beth os na allaf fforddio’r ffioedd?

Os ydych chi’n teimlo na allwch chi fforddio’r swm y mae’r awdurdod lleol yn ei godi arnoch chi, dylech chi ddweud wrth rywun sy’n gweithio yn yr awdurdod lleol. Dylech chi siarad â’r person a wnaeth eich asesiad. Gallwch chi ofyn am adolygiad o’ch sefyllfa.

Os ydych chi'n teimlo na allwch chi fforddio'r swm y mae'r awdurdod lleol yn ei godi arnoch chi, dylech chi ddweud wrth rywun sy'n gweithio yn yr awdurdod lleol.

Os na fyddwch chi’n talu’r ffioedd y mae’r awdurdod lleol wedi gofyn i chi eu talu, efallai y byddant yn cysylltu â chi i ofyn i chi esbonio pam nad ydych chi wedi talu. Efallai y byddant yn gofyn i chi ad-dalu’r arian sy’n ddyledus. Mae’n bwysig esbonio’ch sefyllfa iddyn nhw fel y gallwch drafod opsiynau ar gyfer ad-dalu .

Efallai y bydd gennych broblemau ynghylch yr awdurdod lleol sy’n codi tâl arnoch. Gallwch ddelio â phroblemau’n anffurfiol neu’n ffurfiol, a dylent sicrhau eich bod yn gwybod sut i apelio yn erbyn eu penderfyniadau neu gwyno os ydych chi eisiau.

Dewisiadau anffurfiol

Y peth gorau yw ceisio delio â’r broblem yn anffurfiol yn gyntaf. Gallwch siarad am eich pryderon gyda’r gweithiwr proffesiynol sy’n gyfrifol am eich cynllun gofal. Os nad oes gennych gynllun gofal, dylech gysylltu â’r person a wnaeth yr asesiad. Gallwch ofyn iddynt esbonio eu penderfyniad neu drafod eich pryderon.

Mae'n well ceisio delio â'r broblem yn anffurfiol yn gyntaf. Gallwch siarad am eich pryderon gyda'r gweithiwr proffesiynol sy'n gyfrifol am eich cynllun gofal.

Os ydych chi’n siarad â rhywun, cadwch nodyn o:

  • Gyda phwy y siaradoch chi
  • Pan siaradoch chi â nhw, a
  • Yr hyn a drafodwyd gennych

Os ydych chi o dan y Dull Rhaglen Gofal (CPA), trafodwch unrhyw broblemau gyda’ch cydlynydd gofal neu weithiwr allweddol.

Dewisiadau ffurfiol

Cwynion

Os ydych chi am gwyno mae’n rhaid i chi ddefnyddio gweithdrefn gwyno’r awdurdod lleol (ALl).

Camau cyfreithiol

Dylech chi allu delio â’r rhan fwyaf o broblemau’n anffurfiol neu drwy’r weithdrefn gwyno. Fodd bynnag, os ydych chi’n teimlo nad ydyn nhw’n dilyn y gyfraith, gallech chi gael cyngor cyfreithiol. Byddai angen i chi siarad â chyfreithiwr gofal cymunedol.

Efallai y byddwch yn cael cyngor a chynrychiolaeth yn dibynnu ar eich sefyllfa. Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ond mae rheolau ynghylch hyn. Bydd Cyngor Cyfreithiol Sifil yn dweud wrthych a ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol. Gallant roi gwybodaeth i chi am gyfreithwyr lleol sy’n derbyn cymorth cyfreithiol. Gallwch gysylltu â nhw ar 0345 345 4 345. Neu gallwch chwilio am gyfreithiwr ar-lein .

Mae’r wybodaeth yn yr adran hon yn gywir ar adeg ysgrifennu. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn y fersiwn ddiweddaraf o Ganllawiau Statudol Gofal a Chymorth Hydref 2014. Mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd hefyd i ddarparu gwybodaeth a chyngor.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw gofal preswyl?
  2. Beth yw cyfalaf a sut mae'n cael ei asesu?
  3. Sut mae fy incwm yn cael ei asesu?
  4. Beth yw’r mwyaf y bydd yn rhaid i mi ei dalu?
  5. Beth yw ffioedd ail-lenwi?
  6. Cytundebau Taliad Gohiriedig
  7. Deddf Iechyd Meddwl
  8. Beth os na allaf fforddio’r ffioedd?
x

Ydy'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

Wedi'i diweddaru ddiwethaf: 24/06/2020

'