Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
25/06/2020

Sut ydw i’n talu am ofal iechyd meddwl preifat?

  1. Beth yw gofal iechyd meddwl preifat?
  2. Pam fyddwn i’n dewis mynd yn breifat?
  3. Mynediad at ofal iechyd meddwl preifat
  4. Talu am ofal iechyd meddwl preifat
  5. Beth yw fy hawliau?

Talu’n uniongyrchol

Gallwch dalu’n uniongyrchol am eich triniaeth breifat, a elwir yn ‘hunan-dalu’. Mae rhai gwasanaethau’n cynnig cynlluniau pris sefydlog neu fenthyciadau, neu efallai y byddwch yn gallu talu mewn rhandaliadau. Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gallu cael ffioedd is am rai mathau o driniaeth (er enghraifft cwnsela).

Dylech ofyn am ffioedd a chael dadansoddiad o’r costau cyn eich triniaeth. Dylech gael dyfynbris ymlaen llaw, a fydd yn eich helpu i benderfynu a allwch fforddio hynny cyn mynd ymlaen.

Dylech ofyn am ffioedd a chael dadansoddiad o'r costau cyn eich triniaeth. Dylech gael dyfynbris ymlaen llaw, a fydd yn eich helpu i benderfynu a allwch fforddio hynny cyn mynd ymlaen.

Yswiriant meddygol/iechyd

Os oes gennych chi yswiriant meddygol neu yswiriant iechyd, gallwch chi ddarganfod a yw’r polisi yswiriant yn cwmpasu’r driniaeth neu’r gofal sydd ei angen arnoch chi. Dylech chi ofyn i’ch cwmni yswiriant am hyn yn gyntaf.

Ni fydd llawer o gwmnïau yswiriant yn talu am gyflyrau iechyd meddwl sy’n bodoli eisoes. Os ydynt yn gwneud hynny, efallai y byddant yn codi premiymau uwch (faint rydych chi’n ei dalu am eich yswiriant), neu fwy o dâl dros ben (faint a godir arnoch os oes angen i chi wneud hawliad). Yn gyffredinol, mae hyn oherwydd y byddant yn meddwl bod cyflyrau iechyd meddwl yn ‘risg’ uwch.

Efallai bod gan y cwmni yswiriant ei restr ei hun o arbenigwyr y mae’n rhaid i chi eu defnyddio hefyd. Gallai hyn gyfyngu ar eich dewis o ran pwy sy’n eich trin.

Fel arfer, mae angen i chi gael atgyfeiriad gan feddyg ar y rhan fwyaf o gwmnïau yswiriant.

Faint mae gofal iechyd meddwl preifat yn ei gostio?

Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar y math o driniaeth rydych chi ei eisiau neu ei hangen, ble rydych chi’n mynd, ac a oes gennych chi yswiriant meddygol. Dylech chi ystyried:

  • Cost ymgynghoriad neu asesiad cychwynnol (sydd fel arfer yn costio rhwng £150 a £250)
  • Am ba hyd y gallai fod angen triniaeth arnoch chi
  • Faint o sesiynau triniaeth y gallech fod eu hangen
  • A fydd angen i chi aros mewn uned breswyl ar gyfer triniaeth (sy’n golygu y byddai’n rhaid i chi dalu am lety, bwyd ac eitemau ychwanegol eraill)

Beth am gyfrinachedd?

Mae cyfrinachedd yn golygu na ddylai’r gweithiwr proffesiynol rydych chi’n ei weld ddweud pethau personol amdanoch chi wrth bobl eraill. Yr unig amser y gallant wneud hyn yw os byddwch chi’n rhoi caniatâd iddyn nhw wneud hynny neu os yw’n gwbl angenrheidiol (er enghraifft, os dywedoch chi eich bod chi’n mynd i niweidio rhywun).

Efallai y bydd eich darparwr gofal iechyd preifat yn cysylltu â’ch meddyg neu dîm y GIG i roi gwybod iddyn nhw am eich triniaeth neu bethau rydych chi’n eu trafod. Dylech siarad â nhw am hyn ymlaen llaw. Dylech ofyn i’ch darparwr gofal iechyd preifat am eu polisi cyfrinachedd pan fyddwch chi’n eu gweld, a beth mae hyn yn ei olygu o ran dweud wrth wasanaethau’r GIG.

Os ydych chi’n credu bod eich darparwr gofal iechyd preifat wedi torri hyn, gallwch gwyno. Gallwch ddysgu mwy am sut i gwyno yn ein hadran Beth yw fy hawliau?. Efallai yr hoffech ofyn i’ch darparwr gofal iechyd preifat weld copi o’u polisi cyfrinachedd.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw gofal iechyd meddwl preifat?
  2. Pam fyddwn i’n dewis mynd yn breifat?
  3. Mynediad at ofal iechyd meddwl preifat
  4. Talu am ofal iechyd meddwl preifat
  5. Beth yw fy hawliau?
x

Ydy'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

Wedi'i diweddaru ddiwethaf: 25/06/2020

'