Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
25/06/2020

Pam fyddwn i’n dewis mynd yn breifat?

  1. Beth yw gofal iechyd meddwl preifat?
  2. Pam fyddwn i’n dewis mynd yn breifat?
  3. Mynediad at ofal iechyd meddwl preifat
  4. Talu am ofal iechyd meddwl preifat
  5. Beth yw fy hawliau?

Mae’r GIG yn cynnig triniaeth neu ofal ar gyfer eich anghenion iechyd meddwl, ond efallai y byddwch yn penderfynu cael gofal iechyd preifat am y rhesymau isod.

Dewis gwell o ran pryd y cewch eich trin ac amseroedd aros byrrach

Yn aml, mae gan y GIG amseroedd aros hir. Gallwch gael gofal iechyd preifat yn gyflym a threfnu ymgynghoriad neu apwyntiad ar amser sy’n addas i chi. Mae hyn yn golygu amseroedd aros byrrach a mwy o hyblygrwydd o ran pryd y cewch eich gweld.

Dewis o ble rydych chi’n cael eich trin

Os oes angen triniaeth neu ofal arnoch ar gyfer eich iechyd meddwl, dim ond cymorth gan y GIG yn yr ardal rydych chi fel arfer yn byw ynddi y gallwch chi ei gael. Mae hyn yn wir oni bai bod angen triniaeth frys arnoch chi neu’n cael triniaeth y tu allan i’r ardal. Mae hyn oherwydd sut mae cyllid y GIG yn gweithio. Yn gyffredinol, gallwch chi gael cymorth preifat mewn ardal sy’n fwy addas i chi.

Dewis o bwy rydych chi’n ei weld

Mae mynd yn breifat yn golygu y gallwch chi ‘siopa o gwmpas’ a dod o hyd i arbenigwr (er enghraifft meddyg neu therapydd) o’ch dewis.

Y dewis o gael triniaeth nad yw o bosibl ar gael ar y GIG

Weithiau ni all y GIG gynnig pob math o driniaeth bob amser. Er enghraifft, efallai yr hoffech chi gael math penodol o therapi siarad nad yw’r GIG yn ei gynnig yn eich ardal.

Os nad yw’r GIG yn cynnig math penodol o driniaeth a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), gallwch chi o hyd geisio cael hyn trwy ‘gais am gyllid unigol’.

Os na allwch gael mynediad at driniaeth benodol ar y GIG, efallai yr hoffech archwilio ei chael yn breifat.

Beth ddylwn i ei ystyried cyn gwneud penderfyniad?

Y gost

Mae gofal iechyd preifat yn eithaf drud fel arfer. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am dalu am ofal iechyd meddwl preifat ar ein tudalen Sut ydw i’n talu am ofal iechyd meddwl preifat .

Eich gofal a’ch triniaeth gyda’r GIG

Os ydych chi’n cael triniaeth breifat, gallwch chi gael gofal y GIG o hyd ond mae’n annhebygol iawn y bydd y GIG yn cynnig yr un driniaeth i chi. Mae hyn fel nad ydych chi’n cael yr un driniaeth ddwywaith. Dylai arbenigwyr preifat ysgrifennu at eich meddyg teulu i’w diweddaru ar ôl i chi gael unrhyw driniaeth breifat. Gallwch ddysgu mwy am hyn yma.

P’un a yw’r person rydych chi’n ei weld wedi’i achredu neu wedi’i gofrestru

Os penderfynwch weld rhywun sy’n cynnig gofal iechyd meddwl preifat, dylech ofyn iddynt am eu cymwysterau a’u hachrediadau. Mae bod yn achrededig yn golygu bod corff swyddogol yn sicrhau bod gan eu gwasanaeth safonau uchel. Er enghraifft, nid oes rhaid i bob therapydd fod wedi’i achredu felly mae’n bwysig gwirio yn gyntaf.

Rhaid i bob meddyg (er enghraifft meddygon teulu a seiciatryddion) fod wedi cofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC). Gallwch wirio i weld a yw meddyg wedi cofrestru ar eu gwefan.

Ansawdd y gwasanaeth

Gwiriwch i weld a oes gan eich darparwr gofal iechyd preifat sgoriau, adolygiadau neu adroddiadau boddhad cleifion. Mae’r Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) yn cyhoeddi canlyniadau arolygiadau ysbytai ar gyfer ysbytai’r GIG a phreifat ar eu gwefan.

Cael ail farn breifat wedi’i derbyn gan y GIG

Efallai y byddwch chi’n penderfynu gofyn am ail farn os oes gennych chi gwestiynau ynghylch eich diagnosis neu driniaeth iechyd meddwl. Mae rhai pobl yn penderfynu cael ail farn breifat oherwydd na fydd y GIG yn darparu un. Nid oes rhaid i wasanaethau’r GIG dderbyn ail farn rydych chi wedi’i chael yn breifat felly dylech chi wirio gyda’ch tîm GIG yn gyntaf.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw gofal iechyd meddwl preifat?
  2. Pam fyddwn i’n dewis mynd yn breifat?
  3. Mynediad at ofal iechyd meddwl preifat
  4. Talu am ofal iechyd meddwl preifat
  5. Beth yw fy hawliau?
x

Ydy'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

Wedi'i diweddaru ddiwethaf: 25/06/2020

'