Beth yw gofal iechyd meddwl preifat?
Mae gofal iechyd preifat yn golygu mynd y tu allan i’r GIG a thalu am y gwasanaethau iechyd rydych chi eu heisiau.
Ar gyfer gofal iechyd meddwl, gallai hyn olygu:
- Cael asesiad iechyd meddwl neu ‘ymgynghoriad’ a allai arwain at ddiagnosis neu gynllun triniaeth,
- Cael cwnsela neu therapi,
- Cael triniaeth arbenigol, neu
- Aros mewn uned adsefydlu arbenigol neu ysbyty.
Gallwch chi barhau i gael gofal gan y GIG os penderfynwch chi dalu am ofal iechyd preifat ychwanegol.
Gallwch chi gael gofal gan y GIG o hyd os penderfynwch chi dalu am ofal iechyd preifat ychwanegol. Mae’n dal yn debygol y byddwch chi’n cael triniaeth gan y GIG mewn argyfwng, neu os oes angen i chi gael eich cadw (‘sectionio’) o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
Os ydych chi’n talu am ymgynghoriad preifat, ni allwch chi wedyn gael gofal cyflymach drwy’r GIG.
