Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
25/06/2020

Beth yw fy hawliau?

  1. Beth yw gofal iechyd meddwl preifat?
  2. Pam fyddwn i’n dewis mynd yn breifat?
  3. Mynediad at ofal iechyd meddwl preifat
  4. Talu am ofal iechyd meddwl preifat
  5. Beth yw fy hawliau?

Pan fyddwch chi’n prynu gofal iechyd preifat, rydych chi’n prynu gwasanaeth. Yn ôl y gyfraith, rhaid i’ch darparwr gofal iechyd preifat gadw at bopeth rydych chi’ch dau wedi cytuno arno. Gelwir hyn yn gontract.

Os oes gennych chi broblemau gyda’r gwasanaeth rydych chi wedi’i gael, gallwch chi gwyno. Efallai yr hoffech chi gwyno am wahanol resymau.

Sut i wneud cwyn gyffredinol

Yn gyntaf, dylech gysylltu’n uniongyrchol â’r person rydych chi wedi’i weld am driniaeth. Efallai bod gan eich darparwr gofal iechyd ei adran gwynion ei hun a all ddelio â’ch problem. Gallech hefyd ofyn am gopi o’u gweithdrefn gwynion. Dylech esbonio pam rydych chi’n cwyno, beth sydd wedi digwydd a beth hoffech chi ei weld yn digwydd i ddelio â’r broblem.

Dylech esbonio pam rydych chi'n cwyno, beth sydd wedi digwydd a beth hoffech chi weld yn digwydd i ddelio â'r broblem.

Fel arfer, mae’n well gwneud cwyn yn ysgrifenedig, naill ai drwy lythyr neu e-bost. Dylech gadw copi o unrhyw lythyrau neu e-byst. Os byddwch chi’n siarad â rhywun ar y ffôn neu wyneb yn wyneb, nodwch gyda phwy y gwnaethoch chi siarad, beth wnaethoch chi ei drafod a’r dyddiad a’r amser.

Cysylltu â chymdeithasau proffesiynol

Rhaid i bob meddyg (er enghraifft meddygon teulu a seiciatryddion) fod wedi cofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC). Mae’r GMC yn sicrhau bod meddygon yn bodloni’r safonau disgwyliedig ar gyfer arfer meddygol da.

Os oes gennych bryder am feddyg, gallech gysylltu â’r GMC .

Gallech hefyd gysylltu â’r cymdeithasau proffesiynol neu’r corff sy’n goruchwylio’r maes triniaeth rydych chi’n ei gael.

Sut i wneud cwyn am esgeulustod

Os yw eich gofal wedi bod islaw’r safon yr oeddech yn ei disgwyl ac wedi achosi anaf corfforol neu seicolegol i chi, efallai y byddwch yn gallu gwneud hawliad esgeulustod clinigol.

Gallwch gael iawndal ariannol os byddwch yn ennill eich achos. Gall fod yn anodd profi esgeulustod clinigol a byddai angen i chi geisio cyngor cyfreithiol arbenigol.

Gallwch gael cyngor gan Action Against Medical Accidents . Maent yn dîm o weithwyr achos sydd wedi’u hyfforddi’n feddygol ac yn gyfreithiol a all roi cyngor a chymorth am ddim ar hawliadau esgeulustod clinigol.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw gofal iechyd meddwl preifat?
  2. Pam fyddwn i’n dewis mynd yn breifat?
  3. Mynediad at ofal iechyd meddwl preifat
  4. Talu am ofal iechyd meddwl preifat
  5. Beth yw fy hawliau?
x

Ydy'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

Wedi'i diweddaru ddiwethaf: 25/06/2020

'