O fewn yr adran hon

  1. Beth yw gofal iechyd meddwl preifat?

    Mae gofal iechyd preifat yn golygu mynd y tu allan i'r GIG a thalu am y gwasanaethau iechyd rydych chi eu heisiau. Ar gyfer gofal iechyd meddwl gallai hyn olygu asesiadau a allai arwain at ddiagnosis neu gynllun triniaeth, therapi neu aros mewn uned adsefydlu arbenigol neu ysbyty.

  2. Pam fyddwn i’n dewis mynd yn breifat?

    Mae'r GIG yn cynnig triniaeth neu ofal ar gyfer eich anghenion iechyd meddwl, ond efallai y byddwch yn penderfynu cael gofal iechyd preifat. Darganfyddwch pam y gallech ystyried gofal meddygol iechyd meddwl preifat.

  3. Sut alla i gael mynediad at ofal iechyd meddwl preifat?

    Gallwch gael mynediad at ofal iechyd meddwl preifat mewn sawl ffordd gan gynnwys drwy eich meddyg teulu, yn uniongyrchol gyda darparwr, chwiliad ar y rhyngrwyd neu wasanaeth arbenigol y GIG.

  4. Sut ydw i’n talu am ofal iechyd meddwl preifat?

    Gallwch dalu'n uniongyrchol am eich triniaeth breifat, a elwir yn 'hunan-dalu'. Mae rhai gwasanaethau'n cynnig cynlluniau pris sefydlog neu fenthyciadau, neu efallai y byddwch yn gallu talu mewn rhandaliadau. Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gallu cael ffioedd is am rai mathau o driniaeth (er enghraifft cwnsela).

  5. Beth yw fy hawliau?

    Pan fyddwch chi'n prynu gofal iechyd preifat, rydych chi'n prynu gwasanaeth. Yn ôl y gyfraith, rhaid i'ch darparwr gofal iechyd preifat gadw at bopeth rydych chi'ch dau wedi cytuno arno. Darganfyddwch sut i wneud cwyn am eich darparwr meddygol preifat.

'