Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
25/06/2020

Roeddwn i’n gweithio pan es i’r ysbyty. Beth sy’n digwydd i’m cyflog?

  1. Beth sy'n digwydd i'm harian, fy nghartref a'm hanifeiliaid anwes?
  2. Dweud wrth eraill eich bod chi yn yr ysbyty
  3. Beth sy'n digwydd i'm cyflog?
  4. Beth sy'n digwydd i'm budd-daliadau?
  5. Sut fydd fy Nghredyd Cynhwysol yn cael ei effeithio?
  6. Ni allaf fforddio fy nyledion
  7. Sut alla i dalu fy miliau?
  8. Beth os na allaf ofalu am fy arian?

Os ydych chi’n gweithio ond bod yn rhaid i chi gymryd amser i ffwrdd oherwydd nad ydych chi’n ddigon da i weithio, gallech fod â hawl i dâl salwch. Gall eich contract cyflogaeth ddweud faint y bydd eich cyflogwr yn eich talu ac am ba hyd, a elwir yn ‘dâl salwch cytundebol’.

Efallai y bydd angen i chi roi ‘nodyn ffitrwydd’ gan feddyg i’ch cyflogwyr i brofi nad ydych chi’n gallu gweithio; gallwch siarad â’ch meddyg os oes angen nodyn ffitrwydd arnoch chi.

Os nad yw eich contract yn sôn am dâl salwch cytundebol, efallai y byddwch yn dal i fod â hawl i Dâl Salwch Statudol (SSP) . SSP yw’r swm lleiaf y mae’n rhaid i’ch cyflogwr ei dalu i chi os na allwch weithio o ganlyniad i salwch, a thelir SSP am hyd at 28 wythnos. Os ydych chi yn yr ysbyty am fwy na 28 wythnos, gallwch wneud hawliad am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) .

Os yw eich tâl salwch yn llai na’ch incwm arferol, efallai y byddwch yn gymwys i gael credydau treth a mwy o fudd-daliadau fel Cymhorthdal ​​Incwm , yn dibynnu ar eich amgylchiadau, ac efallai y byddwch yn gymwys i gael Budd-dal Tai (HB) os ydych chi’n rhentu’ch cartref, yn ogystal â Chymorth Treth y Cyngor . Dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol i gael gwybod mwy am y budd-daliadau hyn.

Mewn rhai ardaloedd, efallai y byddwch yn hawlio Credyd Cynhwysol (CC) yn lle ESA a HB – gall y rheolau ynghylch budd-daliadau fod yn gymhleth. Mae gan y sefydliad Turn2us gyfrifiannell budd-daliadau ar eu gwefan, y gallwch ei defnyddio i weld beth y gallech ei hawlio:

Mae Turn2us yn sefydliad sy’n helpu pobl mewn caledi ariannol i gael mynediad at fudd-daliadau lles, grantiau elusennol a gwasanaethau cymorth.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth sy'n digwydd i'm harian, fy nghartref a'm hanifeiliaid anwes?
  2. Dweud wrth eraill eich bod chi yn yr ysbyty
  3. Beth sy'n digwydd i'm cyflog?
  4. Beth sy'n digwydd i'm budd-daliadau?
  5. Sut fydd fy Nghredyd Cynhwysol yn cael ei effeithio?
  6. Ni allaf fforddio fy nyledion
  7. Sut alla i dalu fy miliau?
  8. Beth os na allaf ofalu am fy arian?
x

Ydy'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

Wedi'i diweddaru ddiwethaf: 25/06/2020

'