Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
25/06/2020

A ddylwn i ddweud wrth unrhyw un fy mod i wedi mynd i’r ysbyty?

  1. Beth sy'n digwydd i'm harian, fy nghartref a'm hanifeiliaid anwes?
  2. Dweud wrth eraill eich bod chi yn yr ysbyty
  3. Beth sy'n digwydd i'm cyflog?
  4. Beth sy'n digwydd i'm budd-daliadau?
  5. Sut fydd fy Nghredyd Cynhwysol yn cael ei effeithio?
  6. Ni allaf fforddio fy nyledion
  7. Sut alla i dalu fy miliau?
  8. Beth os na allaf ofalu am fy arian?

Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)

Mae’n bwysig dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) os ewch chi i’r ysbyty ond os ydych chi’n rhy sâl i ddweud wrthyn nhw, gofynnwch i berthynas wneud hynny ar eich rhan, neu ofalwr os oes gennych chi un.

Gallech hefyd ofyn i weithiwr gofal iechyd proffesiynol, fel nyrs, meddyg neu weithiwr cymdeithasol, ei wneud i chi, ac mae rhai wardiau ysbytai yn cael ymweliadau rheolaidd gan gynghorwyr budd-daliadau a all roi cyngor i chi a sicrhau bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwybod eich bod wedi mynd i’r ysbyty.

Mae rhai wardiau ysbytai yn cael ymweliadau rheolaidd gan gynghorwyr budd-daliadau a all roi cyngor i chi a sicrhau bod y DWP yn gwybod eich bod wedi mynd i'r ysbyty.

Gallwch ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau dros y ffôn, ond mae’n well ysgrifennu atynt. Cadwch gopi o’r llythyr a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael tystysgrif postio gan y swyddfa bost, sydd fel arfer yn rhad ac am ddim – fel hyn gallwch brofi eich bod wedi dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am y newid yn eich amgylchiadau. Os na wnewch chi, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn parhau i dalu eich budd-daliadau yn y ffordd arferol. Gallai hyn olygu eich bod yn cael arian nad oes gennych hawl iddo ac os bydd hyn yn digwydd, fe’i gelwir yn ‘or-daliad’.

Os cewch eich gor-dalu, mae’n debygol y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn am yr arian yn ôl. Os na allwch ei ad-dalu mewn un swm cyfan, byddant fel arfer yn didynnu arian o’ch budd-daliadau ac mae hyn yn golygu y byddwch yn cael swm llai o fudd-dal bob wythnos tra’n dal i orfod talu am eich holl gostau byw arferol fel eich bwyd, nwy, trydan a chostau teithio.

Dylai rhif eich swyddfa DWP leol fod ar unrhyw ohebiaeth rydych chi wedi’i chael gyda nhw. Efallai y byddwch chi hefyd yn dod o hyd iddo mewn llyfr ffôn lleol, neu gallwch chi edrych ar-lein drwy deipio’ch cod post i’r ddolen wefan hon.


Awdurdod lleol

Os ydych chi’n hawlio Budd-dal Tai, mae angen i chi ddweud wrth eich awdurdod lleol eich bod wedi mynd i’r ysbyty. Gellir talu eich Budd-dal Tai am 52 wythnos tra byddwch chi yn yr ysbyty, ond mae angen i’r awdurdod lleol wybod pryd aethoch chi i’r ysbyty er mwyn osgoi gordaliad.

Eich landlord

Os ydych chi’n rhentu gan landlord preifat neu gymdeithas dai, dylech chi fel arfer ddweud wrthyn nhw eich bod chi wedi mynd i’r ysbyty, dim ond fel nad ydyn nhw’n meddwl eich bod chi wedi gadael eich cartref.

Dylech hefyd wirio’ch cytundeb tenantiaeth gan y gallai gynnwys amodau ynghylch gadael eich cartref yn wag am gyfnod penodol o amser.

Eich banc

Gallwch ofyn i’ch banc anfon eich datganiadau banc i ward yr ysbyty, neu gallwch ofyn iddynt gael eu hanfon at ffrind neu berthynas rydych chi’n ymddiried ynddo. Bydd hyn yn eich helpu i reoli’ch arian tra byddwch chi yn yr ysbyty.

Gallwch ofyn i'ch banc anfon eich datganiadau banc i ward yr ysbyty, neu gallwch ofyn iddynt gael eu hanfon at ffrind neu berthynas rydych chi'n ymddiried ynddo. Bydd hyn yn eich helpu i reoli'ch arian tra byddwch chi yn yr ysbyty.

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM)

Os ydych chi’n derbyn credydau treth, dylech chi ddweud wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) am y newid yn eich incwm gan y gallen nhw newid eich dyfarniad. Rhif Llinell Gymorth Credydau Treth yw 0345 300 3900.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth sy'n digwydd i'm harian, fy nghartref a'm hanifeiliaid anwes?
  2. Dweud wrth eraill eich bod chi yn yr ysbyty
  3. Beth sy'n digwydd i'm cyflog?
  4. Beth sy'n digwydd i'm budd-daliadau?
  5. Sut fydd fy Nghredyd Cynhwysol yn cael ei effeithio?
  6. Ni allaf fforddio fy nyledion
  7. Sut alla i dalu fy miliau?
  8. Beth os na allaf ofalu am fy arian?
x

Ydy'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

Wedi'i diweddaru ddiwethaf: 25/06/2020

'