Y broses apelio
I apelio yn erbyn penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) rhaid i chi ofyn am ‘ailystyriaeth orfodol’ yn gyntaf a derbyn ‘hysbysiad ailystyriaeth orfodol’ cyn y gallwch apelio. Mae’r broses hon yn berthnasol i fudd-daliadau fel:
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) ,
- Credyd Cynhwysol ,
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ,
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) , a
- Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) .
Unwaith y byddwch wedi cael eich ffurflen, mae’n rhaid i chi apelio’n syth i’r gwasanaeth tribiwnlys. Gelwir hyn yn ‘gyflwyno’n uniongyrchol’. Ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon eich apêl i’r tribiwnlys.
I wneud cyflwyniad uniongyrchol mae’n rhaid i chi anfon y canlynol at y tribiwnlys:
- Un copi o’ch Hysbysiad Ailystyriaeth Orfodol, a
- Llythyr neu ffurflen apêl yn gofyn am apêl
- Os ydych chi’n apelio yn erbyn PIP neu ESA, gallwch chi wneud hyn ar-lein nawr
Ar gyfer y rhan fwyaf o apeliadau budd-daliadau, y ffurflen yw SSCS1 , ond ar gyfer Credydau Treth a Budd-dal Plant, mae’n SSCS5 .
Rydym yn argymell eich bod yn anfon y ffurflen yn hytrach na llythyr. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn anfon y wybodaeth sydd ei hangen ar y gwasanaeth tribiwnlys ar gyfer yr apêl.
Rydym yn argymell eich bod yn anfon y ffurflen yn hytrach na llythyr. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn anfon y wybodaeth sydd ei hangen ar y gwasanaeth tribiwnlys ar gyfer yr apêl.
Bydd y ffurflen yn gofyn a ydych chi eisiau cael gwrandawiad papur neu lafar. Mae gwrandawiad papur yn golygu y bydd y tribiwnlys yn edrych ar eich achos heb i chi fod yno. Mae gwrandawiad llafar yn golygu bod yn rhaid i chi fynd i dribiwnlys. Rydych chi’n fwy tebygol o fod yn llwyddiannus os oes gennych chi wrandawiad llafar.
Dylech lenwi’r ffurflen a’i hanfon at:
Apelau Budd-daliadau IHMCTS, Blwch Post 12626, Harlow, CM20 9QF
Canolfan Apêl SSCS GLlEM, Blwch Post 13150, Harlow, CM20 9TT
Bydd y tribiwnlys yn dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau eich bod yn apelio. Dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau ymateb o fewn 28 diwrnod a dylai anfon copi o’u gwaith papur atoch.
Efallai y byddwch yn derbyn llawer o waith papur gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Peidiwch â theimlo bod angen i chi fynd drwyddo i gyd ar unwaith. Darllenwch drwyddo ar eich cyflymder eich hun. Efallai y bydd gennych eich gwrandawiad tribiwnlys ymhen ychydig wythnosau neu fisoedd – gall fod yn amser aros hir.
Hefyd, os na fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn newid eu penderfyniad ar ddiwedd yr ailystyriaeth orfodol yna gallwch apelio i’r tribiwnlys.
Beth yw’r terfynau amser ar gyfer cyflwyno apêl?
Mae gennych 1 mis i gyflwyno’ch apêl o’r dyddiad ar yr Hysbysiad Ailystyriaeth Orfodol.
Os byddwch yn methu’r terfyn amser o 1 mis oherwydd amgylchiadau arbennig, gallwch ofyn i’r tribiwnlys dderbyn eich apêl yn hwyr. Er enghraifft, os oeddech chi neu’ch partner yn wael iawn ar y pryd, gallwch ofyn i’r tribiwnlys dderbyn apêl hwyr. Rhaid i chi geisio gofyn am hyn o fewn 13 mis i’r penderfyniad gwreiddiol.
