Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
10/03/2025

Paratoi eich apêl

  1. Y broses apelio
  2. Paratoi eich apêl
  3. Nodi eich dadl
  4. Trefniadau ar gyfer y tribiwnlys
  5. Mynd i’r gwrandawiad
  6. Awgrymiadau ar gyfer cynrychioli eich hun mewn tribiwnlys budd-daliadau
  7. Apelio yn erbyn penderfyniad cymorth treth gyngor neu fudd-dal tai
  8. Llythyrau enghreifftiol ar gyfer gofyn am dystiolaeth

Pwy all fy helpu gyda fy ngwrandawiad apêl?

Gallwch gael cymorth gyda’ch apêl gan gynghorydd hawliau lles arbenigol yn eich Canolfan Gyfraith leol, Swyddfa Cyngor ar Bopeth, asiantaeth gynghori annibynnol, neu wasanaeth hawliau lles eich awdurdod lleol, os oes ganddyn nhw un.

Fel arfer, gallwch ddod o hyd i fanylion gwasanaethau lleol yn y llyfr ffôn, y Tudalennau Melyn, neu ar y Rhyngrwyd.

Beth os oes rhaid i mi gynrychioli fy hun?

Os na allwch ddod o hyd i sefydliad lleol i helpu gydag apêl, bydd yn rhaid i chi gynrychioli eich hun yn y gwrandawiad. Gall apelio a chynrychioli eich hun swnio’n llethol ond mae’n arfer eithaf cyffredin mewn gwirionedd.

Mae system y tribiwnlys wedi'i sefydlu fel y gall pobl gynrychioli eu hunain, ac mae pobl yn gwneud hyn bob dydd.

Mae system y tribiwnlys wedi’i sefydlu fel y gall pobl gynrychioli eu hunain, ac mae pobl yn gwneud hyn bob dydd. Mae’n well bod yn barod a deall y broses trwy ddarllen yr wybodaeth hon i helpu eich siawns o lwyddo.

Os ydych chi’n teimlo yr hoffech chi gael rhywfaint o gefnogaeth o hyd, gallwch chi hefyd ofyn i ffrind neu aelod o’r teulu eich helpu i baratoi.

Cael tystiolaeth gefnogol

Ceisiwch bob amser gael tystiolaeth ar gyfer eich apêl. Gallwch anfon tystiolaeth gyda’ch ffurflen apêl, ond peidiwch â phoeni os na allwch gael y dystiolaeth mewn pryd. Gallwch ei hanfon ar ôl i chi anfon y ffurflen. Gallwch roi tystiolaeth i’r tribiwnlys ar ddiwrnod y gwrandawiad, ond mae’n well ei hanfon cyn hynny. Os oes gennych lawer o dystiolaeth, bydd angen amser ar banel y tribiwnlys i’w darllen ar y diwrnod, a gallai hyn ohirio’r gwrandawiad.

Ni fydd y tribiwnlys yn cysylltu â’ch meddyg teulu, seiciatrydd, nac unrhyw weithiwr meddygol proffesiynol arall i ofyn am dystiolaeth. Mae angen i chi siarad â nhw eich hun a gofyn am dystiolaeth. Gallwch ofyn am lythyr neu adroddiad sy’n cefnogi eich honiad. Byddwch yn ymwybodol y bydd rhai gweithwyr meddygol proffesiynol yn codi tâl arnoch am lythyr neu adroddiad. Os na allwch fforddio hyn, neu os byddai’n anodd talu, yna gwnewch hyn yn glir i’r gweithiwr meddygol proffesiynol.

Mae yna rai llythyrau enghreifftiol y gallwch eu defnyddio i gyflwyno tystiolaeth ar gyfer eich apêl ar ddiwedd yr adran hon.

Os oes gan ofalwr neu berthynas wybodaeth am eich cyflwr gallant hefyd anfon hon at y tribiwnlys cyn y gwrandawiad.

Cofiwch wneud copïau o’r dystiolaeth feddygol a’u dwyn gyda chi i’r tribiwnlys, rhag ofn bod unrhyw beth ar goll ar y diwrnod.

Cofiwch wneud copïau o'r dystiolaeth feddygol a'u dwyn gyda chi i'r tribiwnlys, rhag ofn bod unrhyw beth ar goll ar y diwrnod.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Y broses apelio
  2. Paratoi eich apêl
  3. Nodi eich dadl
  4. Trefniadau ar gyfer y tribiwnlys
  5. Mynd i’r gwrandawiad
  6. Awgrymiadau ar gyfer cynrychioli eich hun mewn tribiwnlys budd-daliadau
  7. Apelio yn erbyn penderfyniad cymorth treth gyngor neu fudd-dal tai
  8. Llythyrau enghreifftiol ar gyfer gofyn am dystiolaeth
x

Ydy'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

Wedi'i diweddaru ddiwethaf: 10/03/2025

'