Gwneud trefniadau ar gyfer y tribiwnlys
Os hoffech i ffrind, gofalwr, neu berthynas ddod gyda chi i’ch tribiwnlys, gofynnwch iddyn nhw ychydig wythnosau ymlaen llaw fel y gallant wneud yn siŵr eu bod nhw ar gael.
Os oes angen cyfieithydd arnoch neu os oes gennych unrhyw broblemau cyfathrebu, soniwch am hyn ar y ffurflen apêl neu dywedwch wrth y tribiwnlys ychydig wythnosau cyn eich gwrandawiad er mwyn rhoi amser iddyn nhw drefnu cefnogaeth.
Os oes angen cyfieithydd arnoch neu os oes gennych unrhyw broblemau cyfathrebu, soniwch am hyn ar yr apêl neu dywedwch wrth y tribiwnlys ychydig wythnosau cyn eich gwrandawiad er mwyn rhoi amser iddyn nhw drefnu cefnogaeth.
Mae’n bwysig cynllunio sut i gyrraedd y tribiwnlys. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod ble mae’r lleoliad a’ch bod chi wedi gweithio allan sut y byddwch chi’n cyrraedd yno cyn y diwrnod.
