Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
10/03/2025

Awgrymiadau ar gyfer cynrychioli eich hun mewn tribiwnlys budd-daliadau

  1. Y broses apelio
  2. Paratoi eich apêl
  3. Nodi eich dadl
  4. Trefniadau ar gyfer y tribiwnlys
  5. Mynd i’r gwrandawiad
  6. Awgrymiadau ar gyfer cynrychioli eich hun mewn tribiwnlys budd-daliadau
  7. Apelio yn erbyn penderfyniad cymorth treth gyngor neu fudd-dal tai
  8. Llythyrau enghreifftiol ar gyfer gofyn am dystiolaeth

Awgrym 1: Cymerwch eich amser. Gofynnwch am ragor o wybodaeth neu seibiant os oes angen un arnoch.

Bydd y panel yn gofyn cwestiynau i chi am eich salwch a sut mae’n effeithio arnoch chi. Dylech gymryd eich amser wrth ateb. Os nad ydych chi’n deall y cwestiwn, gofynnwch iddyn nhw ei ailadrodd neu ei egluro’n araf.

Mae'n bwysig bod yn gwrtais i'r panel. Os ydych chi'n teimlo eich bod chi'n ei chael hi'n anodd aros yn dawel neu'n mynd yn ofidus, gallwch ofyn i'r panel am seibiant byr.

Mae’n bwysig bod yn gwrtais i’r panel. Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n ei chael hi’n anodd aros yn dawel neu’n mynd yn ofidus, gallwch ofyn i’r panel am seibiant byr.

Awgrym 2: Atebwch y cwestiynau mor llawn ac mor onest ag y gallwch

Wrth roi eich atebion, byddwch yn agored ac yn onest. Gall fod yn anodd siarad am broblemau meddygol a’r cymorth sydd ei angen arnoch. Gallwch gynllunio beth fyddwch chi’n ei ddweud am faterion rydych chi’n ei chael hi’n anodd siarad amdanynt. Gallwch ymarfer ei ddweud yn uchel. Neu efallai yr hoffech chi ei ysgrifennu i lawr yn eich cyflwyniad ysgrifenedig ac yna gwneud y tribiwnlys yn ymwybodol ohono yn ystod y gwrandawiad.

Awgrym 3: Ceisiwch roi enghreifftiau penodol

Efallai y byddai’n ddefnyddiol dod â nodiadau ac enghreifftiau fel eich bod chi’n cofio’r hyn rydych chi am ei ddweud. Mae’n debyg y bydd y panel yn gofyn i chi ddisgrifio’ch diwrnod nodweddiadol. Gall fod yn anodd disgrifio diwrnod ‘nodweddiadol’ os gall eich hwyliau neu’ch iechyd fod yn wahanol o ddydd i ddydd. Ceisiwch esbonio hyn i’r panel. Rhowch wybod iddyn nhw beth allwch chi ei wneud ar ddiwrnod da a diwrnod drwg a pha mor aml rydych chi’n cael diwrnodau drwg.

Awgrym 4: Ewch â ffrind neu berthynas gyda chi

Gallwch fynd â ffrind, gofalwr, neu berthynas gyda chi i gael cefnogaeth. Gallant eich helpu yn ystod y tribiwnlys drwy ofyn cwestiynau i chi. Gallant eich atgoffa o bethau y gallech fod wedi’u hanghofio, ond ni allant siarad ar eich rhan. Mae’n rhaid i chi ateb y cwestiynau eich hun. Os bydd rhywun yn ceisio siarad â’r tribiwnlys ar eich rhan, mae’n debyg y bydd y barnwr yn eu hatal.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Y broses apelio
  2. Paratoi eich apêl
  3. Nodi eich dadl
  4. Trefniadau ar gyfer y tribiwnlys
  5. Mynd i’r gwrandawiad
  6. Awgrymiadau ar gyfer cynrychioli eich hun mewn tribiwnlys budd-daliadau
  7. Apelio yn erbyn penderfyniad cymorth treth gyngor neu fudd-dal tai
  8. Llythyrau enghreifftiol ar gyfer gofyn am dystiolaeth
x

Ydy'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

Wedi'i diweddaru ddiwethaf: 10/03/2025

'