Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
10/03/2025

Gwneud cwyn am PIP

Gallwch wneud cwyn am eich profiad gyda Thaliad Annibyniaeth Personol (PIP). Dylech wneud cwyn am PIP am y rhesymau canlynol:

  • Roedd y bobl a oedd yn delio â’ch hawliad PIP yn anghwrtais
  • Doedd y bobl oedd yn delio â’ch hawliad PIP ddim o gymorth
  • Gwrthodwyd asesiad PIP i chi gartref
  • Mae’n cymryd gormod o amser i gael penderfyniad PIP
  • Mae’n cymryd gormod o amser i dderbyn eich taliad PIP
  • Mae adroddiad meddygol y PIP yn anghywir.

Bydd canlyniad eich cwyn PIP yn amrywio oherwydd sawl ffactor, megis difrifoldeb yr hawliad a’i effaith arnoch chi.

Gwneud cwyn am PIP

Mae sawl cam i gŵyn PIP:

  1. Gwneud cwyn am PIP
  2. Ymateb yr Adran Gwaith a Phensiynau
  3. Ymateb rheolwr datrys cwynion
  4. Ymateb uwch reolwr
  5. Archwiliwr Achosion Annibynnol.

I gychwyn eich cwyn am PIP, dylech gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Gallwch wneud hyn yn y ffyrdd canlynol:

  • Yn ysgrifenedig (defnyddiwch y cyfeiriad ar frig unrhyw lythyr PIP gan yr Adran Gwaith a Phensiynau)
  • Ffonio’r Adran Gwaith a Phensiynau (Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am-5pm): Ffôn: 0800 121 4433. Ffôn testun: 0800 121 4493. Relay UK – os na allwch glywed na siarad ar y ffôn: 18001 yna 0800 121 4433

Os ydych chi’n gwneud cwyn am PIP dros y ffôn, dylech chi gadw cofnod o pryd y gwnaethoch chi ffonio, gyda phwy y gwnaethoch chi siarad a rhif cyfeirnod eich cwyn.

Bydd angen i chi ddweud y canlynol wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau:

  • Eich rhif yswiriant gwladol
  • Eich enw llawn, cyfeiriad a rhif cyswllt
  • Am beth rydych chi’n gwneud y gŵyn, pryd y digwyddodd a sut y gwnaeth effeithio arnoch chi
  • Pa ganlyniad rydych chi’n chwilio amdano

Ymateb cychwynnol yr Adran Gwaith a Phensiynau

Unwaith i chi wneud cwyn am PIP, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich ffonio i drafod eich cwyn. Os na allant gysylltu â chi, byddant yn anfon llythyr atoch.

Os nad ydych chi’n fodlon ag ymateb yr Adran Gwaith a Phensiynau, bydd angen i chi ofyn i’ch cwyn fynd at reolwr datrys cwynion.

Rheolwr datrys cwynion

Unwaith y bydd y rheolwr datrys cwynion wedi derbyn eich cwyn, byddant yn cysylltu â chi, fel arfer dros y ffôn, i drafod eich cwyn a chytuno â chi sut i fwrw ymlaen â’r ymchwiliad.

Byddant yn cysylltu â chi eto o fewn 15 diwrnod gwaith i ddweud wrthych am eu canlyniad i’ch cwyn neu i egluro pryd y gallwch ddisgwyl ymateb os bydd yn cymryd mwy o amser i ymchwilio.

Os ydych chi’n anfodlon â’r canlyniad i ddatrys eich cwyn ar y cam hwn, gallwch ofyn i’r gŵyn fynd at uwch reolwr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Uwch reolwr yr Adran Gwaith a Phensiynau

Bydd uwch reolwr yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn am adolygiad mewnol annibynnol o’ch cwyn. Byddant yn cysylltu â chi o fewn 15 diwrnod gwaith i ddweud wrthych beth yw eu canlyniad neu pryd y gallwch ddisgwyl ymateb os bydd yn cymryd mwy o amser.

Os nad ydych chi’n hapus ag ymateb yr Adran Gwaith a Phensiynau ar y cam hwn, gallwch chi fynd â’ch cwyn at yr Archwiliwr Achosion Annibynnol (ICE) – sydd ar wahân ac yn annibynnol ar yr Adran Gwaith a Phensiynau. Rhaid i chi gysylltu â nhw o fewn chwe mis i gael ymateb terfynol yr Adran Gwaith a Phensiynau ac anfon copi ohono atynt.

Archwiliwr Achosion Annibynnol

Os bydd yr Archwiliwr Achosion Annibynnol yn derbyn eich cwyn, byddant yn gweithredu fel canolwr diduedd, ac ni fyddant yn codi tâl arnoch am eu gwasanaeth.

Byddan nhw’n edrych ar beth oedd eich cwyn a sut y gwnaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau ymchwilio iddi. Os ydyn nhw’n canfod y dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau fod wedi gwneud mwy, byddan nhw’n gofyn iddyn nhw eich digolledu yn unol â hynny.

Os nad ydych chi’n cytuno ag ymateb yr Archwiliwr Achosion Annibynnol, gallwch ofyn i’ch AS anfon eich cwyn at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

x

Ydy'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

Wedi'i diweddaru ddiwethaf: 10/03/2025

'